Yr Eira – Toddi
Rhyddheir albwm newydd hir ddisgwyliedig Yr Eira – ‘Toddi’, ar label I KA CHING 7fed o Orffennaf, 2017.
Mae llwybr cerddorol yr albwm wedi ei gosod yn y ddwy gân ddiwethaf i Yr Eira eu rhyddhau – ‘Pan Na Fyddai’n Llon’ a ‘Dros y Bont’, ac wedi iddynt droi’r gitarau ‘na i fyny ‘chydig, mae’r albwm yn barod.
“Mae’r holl albwm yn sôn am rhyw fath o newid,” meddai Lewys Wyn, prif leisydd a gitarydd y band. “Mae’r darlun o bili pala sydd ar y clawr yn symbol o hyn i gyd – y newid rhwng cyfnodau mewn bywyd, newid mewn ffyrdd o feddwl neu’r newidiadau sy’n gallu digwydd i bersonoliaethau. Dyma ‘da ni wedi ceisio ei ddal yn ein caneuon newydd.”
Mae Yr Eira yn cyfaddef iddyn nhw gymryd cam i’r tywyllwch wrth benderfynu gweithio gyda Steffan Pringle i recordio a chynhyrchu’r albwm, ond buan iawn y sylweddolon nhw ei bod yn berthynas gadarnhaol a chynhyrchiol. Wrth sôn am y broses, meddai Lewys, “mae gan Steffan brofiad helaeth o weithio gyda bandiau megis Houdini Dax, Adwaith ac Estrons. Be oedd yn braf oedd cael cymaint o amser i arbrofi gyda synau gitâr a chael amser i feddwl yn union i ba gyfeiriad yr oedden ni eisiau mynd gyda’r albwm. Y bwriad oedd creu albwm yng ngwir ystyr y gair, felly roedd angen cyfansoddi trawstoriad o ganeuon a oedd yn cyffwrdd ar synau a gweadau hollol newydd a chyffroes.”
Mae’r cyfnod arbrofi a’r gwaith meddwl i’r haenau o gerddoriaeth i’w glywed yn syth yn y traciau agoriadol, ‘Gadael am yr Haf’ a ‘Diflannu’ – cyn i’r caneuon daranu i gytganau sydd fel glud yn y meddwl. Mae ‘na fomentau o bop hamddenol mewn caneuon fel ‘Rings Around Your Eyes‘ a darnau trymach na sŵn arferol y band mewn caneuon fel ‘Ffiniau Anweledig‘.
Bydd gig lansio yr albwm yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon fel rhan o Ŵyl Arall.