
Archebwch Albwm Newydd Candelas!
Rhyddhawyd sengl newydd Candelas, ‘Gan Bo Fi’n Gallu’ ar label recordiau I KA CHING ddydd Gwener 11/05/18, a bellach, gallwch brynu’r albwm newydd trwy glicio YMA.
Yn drymach ac yn fwy eofn nag erioed o’r blaen, mae ‘Gan Bo Fi’n Gallu’ yn ein tynnu trwy ferw dryslyd llif ymennydd Osian Williams, y prif leisydd, cyn glanio mewn cytgan syml sy’n dweud wrth bawb – os ‘ti’n hoffi g’neud rhywbeth, g’na fo!
O’r diwedd, gallwn ddatgelu fod ‘Gan Bo Fi’n Gallu’ yn ragflas o albwm hir ddisgwyliedig Candelas – ‘Wyt Ti’n Meiddio Dod i Chwarae?’ Rhyddheir yr albwm ar CD ac yn ddigidol Mehefin 22ain, gyda gig lansio gyda’r hwyr yn Neuadd Buddug, Y Bala.
Bydd rhagor o ddigwyddiadau cyffrous ynglŷn a Candelas yn cael eu cyhoeddi cyn hir.
Er mwyn sicrhau fod yr albwm yn eich cyrraedd ar y diwrnod rhyddhau, mae cyfle nawr i rag-archebu bwndel unigryw, cyfyngedig ‘Wyt Ti’n Meiddio Dod i Chwarae?’. Mae’n cynnwys yr albwm, bag tote, set o gardiau post a bathodyn. Gellir hefyd rhag-archebu’r albwm ar ei ben ei hun.