
Pontydd – sengl newydd Mared!
Mae’n bleser gan Recordiau I KA CHING ryddhau sengl newydd Mared, Pontydd, ar y 31ain o Orffennaf. Dyma’r bedwaredd sengl oddi ar ei darpar albwm hirddisgwyliedig Y Drefn a gallwn gyhoeddi y rhyddheir yr albwm honno ar yr 21ain o Awst. Cyhoeddir rhagor o newyddion cyffrous am fwndel albwm Mared yn y dyfodol agos.
Mae ei senglau blaenorol yn cynnwys Y Reddf, Dal ar y Teimlad ac yn fwy diweddar Over Again a fu ar restr chwarae BBC Radio Wales am dair wythnos o’r bron.
Mae Pontydd yn trafod sut yr ydym, ac y gallwn ni fel pobl godi pontydd rhwng cymunedau a diwylliannau gwahanol, boed hynny drwy’r celfyddydau neu’r modd yr ydym yn cyfarthrebu. Mae’r gân hon wedi ei chyfansoddi mewn arddull jazz; arddull sydd wedi ei benthyg gan ddiwylliant arall, ac mae’n sôn am y pwysigrwydd o gofio’r cymryd a rhoi yma rhwng gwledydd. Mae’n rhaid i ni gydnabod, wrth groesi pont, fod rhannu ein dylanwadau yn ein datblygu ni fel pobl a chymdeithas gyfan.
Cafodd ei senglau cyntaf dderbyniad arbennig ar raglenni Janice Long, Adam Walton a Bethan Elfyn ar BBC Radio Wales, yn ogystal â dennu sesiynau byw a chyfweliadau ar sioeau Georgia Ruth a Huw Stephens ar BBC Radio Cymru. Ym mis Tachwedd, gwahoddwyd Mared i berfformio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC mewn cyngerdd a ddarlledwyd yn fyw i ddathlu 50 mlynedd ers dechrau label Sain.
Cydweithiodd Mared ar Fear in the Night a Something Real gyda’r ddeuawd electronig Denton Thrift, gan gyrraedd dros 700,000 o ffrydiau ar Spotify.
Ymhlith ei dylanwadau y mae Laura Mvula, Lucy Rose, Celeste, Madison Cunningham, Georgia Ruth, Lianne La Havas a Faye Webster.
Derbyniodd Mared ei swydd gyntaf ar gynhyrchiad diweddaraf y West End o Les Misérables, a agorodd yn swyddogol ym mis Ionawr 2020 yn Theatr Sondheim, Llundain.
Dolenni Gwefannau Cymdeithasol Mared:
Spotify / YouTube / Facebook / Instagram / Gwefan