Sonant

Mae cysylltiad cyntaf Siân James a Sioned Webb yn mynd yn ôl i’r cyfnod lle’r oedd y ddwy yn cystadlu’n erbyn ei gilydd ar y piano o dan 12 oed; Siân yn byw yn Llanerfyl a Sioned yn y Bala.

Bu’r cysylltiad nesaf hefyd yn eitha chwedlonol. Aeth y ddwy i astudio cerddoriaeth yn Adran Cerddoriaeth Bangor o fewn blwyddyn i’w gilydd, yn bennaf oherwydd presenoldeb yr Athro William Mathias fu’n ddylanwad mawr ar y ddwy.

Mae hanes creu Sonant a’r daith o’i ddechrau i’w ddiwedd wedi bod yn un hir. Bu Siân a Sioned yn teithio’r byd yn chwarae i gynulleidfaoedd amrywiol. Wrth grwydro Canada ac Uzbekistan, gwelwyd weithiau fod angen eitemau ychwanegol ar gyfer nosweithiau o adloniant. Erbyn dychwelyd i Gymru, roedd y syniad o gerddoriaeth i ddau biano wedi cydio. Clywyd Sonant gyntaf fel deuawd yn Eisteddfod Caerdydd yn 2018 a phawb wedi’u swyno gan gysyniad ychydig yn annisgwyl. Mae eu halbwm gyntaf yn dwyn yr un enw â’r ddeuawd.