Huw M

Huw M yw’r canwr-gyfansoddwr Huw Meredydd Roberts, sy’n chwarae cymysgedd o felodïau gwreiddiol a chaneuon gwerin, i greu cerddoriaeth ddeallus, iasol. Mae Lucy Simmonds yn ymuno ag o i chwarae’r soddgrwth a chanu, Bethan Mai yn canu a chwarae’r acordion, ac Iolo Wheelan ar y drymiau, offerynnau taro ac yn canu.

Ar gyfer trydydd albwm Huw, ‘Utica’, mae wedi cydweithio gyda’r Chwiorydd Marshall o Gaerdydd i blethu gospel cynnar gyda chanu gwerin Cymreig, cyn ychwanegu llond llaw o ddwyster, hiraeth a thor calon. Hynod o hapus yn wir.

Disgrifiwyd cerddoriaeth Huw M yn y gorffennol fel ‘stunningly beautiful’ gan Stuart Maconie, BBC Radio 6, ac ni fydd Utica’n siomi. Trwy gyfrwng caneuon benthyg a chyfansoddiadau hudol a diamser, mae’r themâu oesol o ofid a hiraeth yn cael eu hail eni, a’u gwisgo o’r newydd.

Mae Huw M eisoes wedi rhyddhau dwy albwm arall ar label Gwymon, sef ‘Os Mewn Sŵn’ a ‘Gathering Dusk’.

Rhagor…
huwm.net
Spotify Huw M
Soundcloud Huw M
Fideo ‘House By The Sea’
Fideo Sŵn y Galon Fach yn Torri
Fideo ‘I Wanted You To Cry’
Fideo ‘Dal yn Dynn’
Fideo ‘Dyma Lythyr’
Fideo ‘Michelle’
Fideo ‘Gad y Diwrnod Wrth y Drws’

Cysylltu…
Twitter: @Huw_m
E-bost: post@huwm.net

Cynnyrch