• Cymraeg
  • English

I KA Ching

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • YouTube
  • Newyddion
  • Artistiaid
  • Siop
  • Gigs
  • Cysylltu
  •  
  • Mwy……Llai
Dewislen

Albwm newydd Huw M

18 Hydref 2015 | Newyddion

Cliciwch YMA i glywed dwy gan oddi ar albwm newydd Huw M, Utica.

Mae ‘I wanted you to cry’ yn adrodd hanes dau o bobl a rwygwyd arwahân gan rhyw ddyhead i beri trallod ar fywydau ei gilydd. Dyma ddeuawd anghyffredin, gyda chyfeiliant noeth ac alaw gofiadwy, felys sy’n gwrthgyferbynnu â gwirionedd creulon y geiriau.

Mae thema ‘Sŵn y galon fach yn torri’ yn dilyn trywydd tebyg. Dyma ochr dywyllaf canu gwerin Cymreig ar ei orau, ac mae Huw M wedi gosod y geiriau iasol i ddarn cywrain o gerddoriaeth wreiddiol. Mae’r trefniant a’r harmonïau yn ddesgil berffaith ar gyfer stori, unwaith eto, o dristwch a thor-calon.

Hynod o hapus yn wir!

Rhyddheir yr albwm ‘Utica’ ar y 13eg o Dachwedd 2015 a gallwch ei brynu ym mhob siop a gwefan cerddoriaeth gwerth ei halen, yn cynnwys ein siop arlein.

Dyma fideo i’r gân Swn y galon fach yn torri:

  • Cerddoriaeth

  • Artist dan sylw

    Kathod

    +
  • Cynnyrch dan sylw

    Mared – Y DrefnMared

    +
  • Newyddion

    • Am Eiliad / O’r Ddwy Lan – Melda Lois
      3 Tachwedd 2025+
    • Hud – Huw M
      15 Hydref 2025+
    • Ymarfer Byw – Dafydd Owain
      6 Hydref 2025+
  • Ⓗ I KA Ching 2026
    • Fy nghyfrif
    • Cysylltu