
Atgyfodiad ‘Yr Atgyfodi’ – EP Y Cyrff
Braint yw cyhoeddi ein bod yn ail-ryddhau EP chwedlonol Y Cyrff – ‘Yr Atgyfodi’ ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, a hynny union ddeg mlynedd ar hugain ers ei rhyddhau am y tro cyntaf yn Eisteddfod Llanrwst 1989.
Eisteddfod 1989, ac mae Y Cyrff yn crwydro’r maes yn dosbarthu copïau o’u record feinyl 12 modfedd ‘Yr Atgyfodi’. Roedd hi’n hollol amlwg mai yn eu tref enedigol y dylid ei rhyddhau ac yn y deng mlynedd ar hugain sydd wedi gwibio heibio, mae’r caneuon yr un mor berthnasol ac yn sgrechian i gael eu hail-ryddhau ar feinyl eto ar gyfer Eisteddfod 2019. Meddai Mark Roberts (Y Cyrff, Catatonia, Y Ffyrc, Sherbert Antlers, MR), prif-leisydd y band; “Yn fy marn i dyma uchafbwynt recordio’r band – pum cân sy’n llwyddo i drosglwyddo emosiwn amrwd y set byw ar feinyl”.
Yn sicr, does dim angen cyflwyniad i un o’r traciau’n enwedig – ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’ – cân sy’n gorlifo o hyder ac sy’n hudo’r gwrandawr i gyd-ganu’r gytgan enwog. Ac yna ceir pedwar trac anfarwol arall, ‘Y Boddi’, ‘Cofia Fi’n Ddiolchgar’, ‘Cerdda Efo Fi Mewn Distawrwydd’ ac ‘Weithiau/Anadl’. “Y gwir amdani yw bod pob un o’r caneuon ar y record yn dystiolaeth o’r angerdd a’r emosiwn oedd Y Cyrff yn gallu ei gyfleu yn eu perfformiadau byw gan gyrraedd uchafbwynt gyda’r gân olaf ‘Weithiau/Anadl’.” meddai Toni Schiavone. “Nid casgliad syml o ganeuon roc sydd gyda ni fama, ond mynegiant o ddwyster emosiynol dwfn.”
Ym mhob un o’r caneuon mae ‘na sefyllfaoedd, delweddau a geiriau grymus o gofiadwy. Dyma EP sy’n parhau i fod yn berthnasol ac mae ei hail-gyflwyno i’r byd yn ffordd o ddathlu cyfraniad amhrisiadwy Y Cyrff i sîn gerddorol Cymru a thu hwnt. Dyma atgyfodiad ‘Yr Atgyfodi’.
Rhag-archebwch y record yma