
Blind Wilkie McEnroe
(Llun trwy garedigrwydd Tim Rooney Photography)
Prosiect cerddorol Carwyn Ginsberg (Fennel Seeds, Hippies vs Ghosts), Dave Elwyn a Mike Pandy (HazyBee) yw Blind Wilkie McEnroe. Wedi iddynt chwarae mewn nifer o fandiau yn y gorffennol, daeth y triawd ynghŷd rhwng Wrecsam a Bangor i greu rhywbeth newydd, cyffrous. Ymunodd Si Brereton ar yr allweddellau ac offerynnau taro, ac Andrew Stokes ar y bâs i alluogi sain fwy cyfoethog yn fyw, ac ymhen amser, yn y stiwdio.
Mae digonedd o gynnwrf wedi tyfu o amgylch traciau bachog, egniol, seicadelig y band yn barod, wedi iddynt ryddhau eu EP Ar Ddydd Fel Hyn yn 2018. Recordiwyd yr EP yn Stiwdio Glan-Llyn gyda Llŷr Parri (Jen Jeniro, Serol Serol, Omaloma), a gyda llwyddiant yn eu gigs byw, mae llawer mwy i’w gynhyrfu amdano ar ei ffordd gan Blind Wilkie McEnroe.
Rhyddhawyd y sengl ‘Tynnu Ymlaen‘ yn 2019, ac roedd ‘Cont y Mor‘ ar y record aml-gyfrannog i nodi dengmlwyddiant I KA CHING, ‘X‘.
Rhagor…
Cysylltu…