
Gwenno Morgan
Mae Gwenno Morgan yn bianydd, cyfansoddwr a chynhyrchydd o Fangor, Gogledd Cymru.
Cafodd ei EP cyntaf offerynnol ei ryddhau ar y label ar Ebrill 16 eleni. Mae Cyfnos yn gyfuniad o draciau sinematig sy’n ennyn hiraeth am lefydd a phobl arbennig, gyda’r piano’n ganolbwynt i’r holl gerddoriaeth. Mae’r sengl ‘T’ oddi ar yr EP wedi cael llawer o sylw gan Sian Eleri a Huw Stephens ar Radio Cymru, ag Adam Walton ar Radio Wales.
Mae cerddoriaeth Gwenno wedi ei ysbrydoli gan amrywiaeth o arddulliau, o’r neo-clasurol fel Philip Glass ag Ólafur Arnalds i’r jazz ag electronic fusion fel Brad Mehldau a Max Cooper.
Dros y misoedd dwetha daeth i’r amlwg drwy gydweithio ar draciau gyda Sywel Nyw ar Label T, a Mared ar label I Ka Ching. Nawr yn ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Leeds yn astudio BMus Perfformio, mae Gwenno’n awyddus i barhau creu a chydweithio.