
Martha Elen
22 Ebrill 2025
Yn wreiddiol o’r Felinheli, mae magwraeth Martha Elen ar lannau’r Fenai yn ddylanwad sy’n llifo’n gyson drwy ei geiriau. Yn cyfuno gweadau cynnil gwerin-americana gyda haenau lleisiol ac alawon bachog alt-pop, mae lle i ganfod cysur rhywle rhwng y dwys a’r ysgafn yn ei chaneuon.
Daw’r traciau atmosfferig a’r elfennau americana o gydweithio gyda’r cerddorion Gethin Elis, Iestyn Jones (y ddau yn aelodau o’r band WRKHOUSE), a Samantha Grace. Er yn troedio i diroedd newydd yn cyhoeddi cerddoriaeth, mae Martha Elen yn gwahodd gwrandawyr i ddod o hyd i deimlad cyfarwydd ymhlith offeryniaeth dyner a’r delweddau daearol.