• Cymraeg
  • English

I KA Ching

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • YouTube
  • Newyddion
  • Artistiaid
  • Siop
  • Gigs
  • Cysylltu
  •  
  • Mwy……Llai
Dewislen

Lludw Ddoe – Martha Elen

11 Medi 2025 | Newyddion

Bydd EP cyntaf Martha Elen ‘Lludw Ddoe’ yn cael ei ryddhau ar label recordiau I KA CHING ar Fedi 19eg 2025.

Wedi swyno cynulleidfaoedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Sesiwn Fawr Dolgellau a Gŵyl Y Dyn Gwyrdd dros yr haf, a hynny ond cwta fisoedd ers iddi ryddhau ei senglau cyntaf – ‘Canu Cloch’ ac ‘Eilio’ – dyma ryddhau EP cyntaf Martha Elen i’r byd.

Dawn Martha yw medru cyfuno gweadau cynnil gwerin-americana gyda haenau lleisiol ac alawon bachog alt-pop, sy’n cynnig lle i ganfod cysur rhwng y dwys a’r ysgafn yn ei chaneuon. Mae ei gallu hefyd i siarad yn uniongyrchol trwy’i geiriau yn llorio rhywun i’r byw.

Tyfa’r traciau i fod yn greadigaethau atmosfferig, cynnes trwy’r cydweithio gyda’r cerddorion Gethin Elis, Iestyn Jones (y ddau yn aelodau o’r band WRKHOUSE) a Samantha Grace a Jack Bolesar. Mae’r cyfan wedi ei gynhyrchu a’i gymysgu’n feistrolgar gan Aled Hughes yn Stiwdio Sain. I gyd-fynd â’r EP, fe ryddheir fideo newydd sbon ar gyfer y gân ‘Eilio’. Cynhyrchwyd y fideo gan Gwenno Llwyd ac fe’i cefnogwyd gan Gronfa Fideos PYST x S4C.

Bydd trac o’r EP, sef ‘Hen Fynd’ yn Drac yr Wythnos ar BBC Radio Cymru o ddydd Llun 15fed o Fedi ymlaen – gyda’r EP i gyrraedd ddydd Gwener 19eg o Fedi.

  • Cerddoriaeth

  • Artist dan sylw

    Melda Lois

    +
  • Cynnyrch dan sylw

    Mared – Y DrefnMared

    +
  • Newyddion

    • Fuo Chi? – Blodau Papur
      14 Mai 2026+
    • Sonant – Sonant
      12 Mai 2026+
    • Am Eiliad / O’r Ddwy Lan – Melda Lois
      3 Tachwedd 2025+
  • Ⓗ I KA Ching 2026
    • Fy nghyfrif
    • Cysylltu