Yr Eira

Mae Yr Eira yn ymosod ar y templed a grëwyd gan fandiau fel Big Leaves, Yr Ods a Sŵnami gyda’u gitarau deintiog a chyflenwad di-dor o alawon tanbaid.

Mae’r band yr un mor fywiog â’r Two Door Cinema Club cynnar, ac os mai Sŵnami yw’r Beatles Cymraeg, Yr Eira yw Rolling Stones y Sîn Roc Gymraeg. Neu a ddylai hynny fod i’r gwrthwyneb? Y naill ffordd neu’r llall, mae Yr Eira wedi darparu seiniau cofiadwy ar gyfer llu o ddefodau ledled Cymru.

Cafodd cynnyrch cynnar Yr Eira  eu croesawu a’u dathlu gan y radio fel y meibion afradlon. Cafodd y gân bop berffaith ‘Elin’ ei henwebu am gân y flwyddyn yng ngwobrau cerddoriaeth cylchgrawn Selar 2013. Chwaraeodd Huw Stephens ‘Trysor’ ar ei sioe ddylanwadol ar Radio 1, ac enwebwyd y band hefyd am ragor o wobrau Selar yn 2014 (band y flwyddyn, EP gorau, cân orau).

Rhyddhaodd Yr Eira eu halbym gyntaf Toddi (2017) yn dilyn rhyddhau eu EP ‘Colli Cwsg’. Derbyniwyd canmoliaeth fawr yng Nghymru a thu hwnt, yn cynnwys cefnogaeth gan BBC Gorwelion yn 2015, sesiwn Maida Vale a chefnogaeth gyson gan Huw Stephens (BBC Radio 1). Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r band wedi chwarae mewn sawl gŵyl adnabyddus gan gynnwys T in the Park, Sound City, Gŵyl Sŵn, Truck Festival a Gŵyl Rhif 6 yn ogystal â pherfformio gyda BBC Pops Orchestra yn Gig y Pafiliwn Eisteddfod Ynys Môn 2017.

Mae eu halbwm ddiweddaraf, ‘Map Meddwl’,  yn gasgliad o syniadau sy’n rhoi cyfeiriad i amcanion a meddyliau person; yn fap meddwl o feddyliau. Mae’r albym yn cyffwrdd â sawl thema, o dor-calon (Blaguro) i anobaith a’r rhwystrau sy’n dy atal rhag symud ymlaen (Straeon Byrion). Mae dadansoddiad trylwyr o fywyd trwy’r albym i gyd, yn darganfod y rhwystrau sydd wrth drio cadw’r ddysgl yn wastad rhwng byw bywyd cyffrous ac amrywiol gyda bywyd diflas, ailadroddus. Yn y caneuon ‘Newid’ a ‘Corporal’ pwysleisir yr angen o’r newid mewn bywyd a’r peryg o syrthio mewn i fywyd undonog, diflas.

Recordiwyd ‘Map Meddwl’ yn Stiwdio Sain gyda Stiwdio Drwm (Ifan Emlyn ac Osian Huw). Cymysgwyd a mastrwyd yr albym gan Eddie Al-Shakarchi.

Rhagor…
Spotify Yr Eira
Soundcloud Yr Eira
Fideo creu Map Meddwl
Fideo Blaguro (Lockdown)
Fideo Pob Nos
Fideo Middle of Nowhere
Fideo Galw Ddoe Yn Ol
Fideo Llyncu Dwr
Fideo Suddo
Fideo Elin
Fideo T in the Park 2015

Cysylltu…
Facebook: facebook.com/YrEira
Twitter: @Yr_Eira
E-bost: eira_@hotmail.co.uk

Cynnyrch