
Pob Nos – Yr Eira
Cliciwch yma i ffrydio ‘Pob Nos’
Yn dilyn cefnogaeth gan Lisa Gwilym (BBC Radio Cymru) a Janice Long (BBC Radio Wales), bydd Yr Eira yn rhyddhau eu sengl newydd ‘Pob Nos’ o’u halbym newydd ‘Map Meddwl’ fydd yn cael ei ryddhau ar 15 Mai ar Recordiau I KA CHING.
Mae Yr Eira yn disgrifio eu sengl newydd fel “Y ddeuawd sydd wedi bod ar goll o’ch bywydau”, gyda gogledd Cymru yn cwrdd â de Cymru. Ysgrifennwyd y trac newydd ar y cyd rhwng dau hen ffrind a chyn-housemates, Gwyn Rosser, sy’n aelod o’r band poblogaidd, Los Blancos, a Lewys Wyn, bu’n treulio sawl noson hwyr yn ysgrifennu caneuon gyda’i gilydd. Yn ogystal â rhyddhau’r sengl ‘Pob Nos’ bydd fideo ‘masterchef gwallgo’ wedi’i gyfarwyddo a’i gynhyrchu gan Griff Lynch (Yr Ods) a Ryan Eddleston yn cael ei ryddhau.
Yn unol â chyfeillgarwch Lewys Wyn a Gwyn Rosser, mae’r gân am frawdoliaeth, ac yn deyrnged i’r holl gerddoriaeth y mae Wyn a Rosser wedi’u cyfansoddi yn answyddogol dros y blynyddoedd. Mae’r sengl hefyd yn deyrnged i’r oriau a dreuliwyd yn gwrando ar Ben Kweller, LCD Soundsystem, Super Furry Animals, Waves, Bowie a llawer mwy. Mae cerddoriaeth ‘Pob Nos’ yn tueddu i ochri mwy at sŵn yr artistiaid hynny, sy’n wahanol i sŵn indi-pop y tonfeddi radio yng Nghymru. Mae sŵn ‘Pob Nos’ yn slacyr garej indi-roc wedi’i lapio mewn swagger Bowie, gyda melodi cariadus a harmonïau hyfryd wedi’u plethu trwy’r gân.
Mae albym newydd Yr Eira ‘Map Meddwl’ yn albym y mae’r band yn disgrifio fel ‘casgliad o syniadau sy’n rhoi cyfeiriad i amcanion a meddyliau person; yn fap meddwl o feddyliau. Mae’r albym yn cyffwrdd â sawl thema, o dor-calon (Blaguro) i anobaith a’r rhwystrau sy’n dy atal rhag symud ymlaen (Straeon Byrion). Mae dadansoddiad trylwyr o fywyd trwy’r albym i gyd, yn darganfod y rhwystrau sydd wrth drio cadw’r ddysgl yn wastad rhwng byw bywyd cyffrous ac amrywiol gyda bywyd diflas, ailadroddus. Yn y caneuon ‘Newid a ‘Corporal’ pwysleisir yr angen o’r newid mewn bywyd a’r peryg o syrthio mewn i fywyd undonog, diflas.
Rhyddhaodd Yr Eira eu halbym gyntaf Toddi (2017) yn dilyn rhyddhau eu EP ‘Colli Cwsg’. Derbyniwyd canmoliaeth fawr yng Nghymru a thu hwnt, yn cynnwys cefnogaeth gan BBC Gorwelion yn 2015, sesiwn Maida Vale a chefnogaeth gyson gan Huw Stephens (BBC Radio 1). Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r band wedi chwarae mewn sawl gŵyl adnabyddus gan gynnwys T in the Park, Sound City, Gŵyl Sŵn, Truck Festival a Gŵyl Rhif 6 yn ogystal â pherfformio gyda BBC Pops Orchestra yn Gig y Pafiliwn Eisteddfod Ynys Môn 2017.
Recordiwyd ‘Pob Nos’ a ‘Map Meddwl’ yn Stiwdio Sain gyda Stiwdio Drwm (Ifan Emlyn ac Osian Huw). Cymysgwyd a mastrwyd yr albym gan Eddie Al-Shakarchi.
