Cpt. Smith

Mae Cpt. Smith wedi bod yn chwarae gyda’i gilydd ers 2015. Aelodau’r band yw Jack Brown ar y drymiau, ei frawd Ellis Brown ar y gitâr, Lloyd Jackson ar y gitâr, ac Ioan Hazell yn chwarae’r gitâr fas ac yn canu.

Yn 2016, ymunodd y band â’r label gan ryddhau dwy sengl ddigidol – ‘Llenyddiaeth’ a ‘Bad Taste’.

Mae’r sawl sydd wedi gwylio Cpt. Smith yn fwy yn ymwybodol o’r egni hypnotig sydd ganddynt, ac mae’n gyffrous dychmygu i ble yr awn nhw nesaf.

Yn dilyn y senglau, rhyddhaodd Cpt. Smith eu EP cyntaf, ‘Propeller’ ddiwedd 2016.

Mae ‘Propeller’  yn crisialu holl gyfnod Cpt. Smith yn chwarae gyda’i gilydd a’r pethau sydd wedi digwydd yn y cyfamser – o’r bydol i’r personol . Mae rhwystredigaethau’r band yn cael eu personoli trwy’r gerddoriaeth, ac mae’r EP yn adlewyrchiad o’r egni sy’n hudo cynulleidfaoedd pan yn chwarae’n fyw. Ceir yma ddylanwadau pync, ffync, seicadelia, yn ogystal â darnau gitâr fas a drymiau sydd bron yn hip hop, sy’n creu effaith hypnotig pwerus.

Wrth  drafod testun yr EP, meddai Ioan Hazel, (prifleisydd a’r gitâr fas); “Mae’n amrywio – o narcisist ar y we yn ‘Llenyddiaeth’ i gân fel ‘Propeller’ sy’n sôn am sut y mae’r gorllewin wedi creu’r problemau sy’n ein wynebu, trwy flynyddoedd o gam-drin, cymryd mantais a gorfodi credoau ar wledydd y dwyrain. Mae yna sawl ysbrydoliaeth tu ôl i’r caneuon ond rydyn ni am i’r gwrandawyr wneud beth y mynnen ohonynt ac felly dwedwn ni ddim mwy!”

Yn 2018, rhyddhawyd EP egniol a swnllyd arall sef ‘Get a Car’, gwyliwch fideo i’r trac teitl yma.

Ymddangosodd ailgymysgiad Sywel Nyw o ‘Red Adair‘ ar y record aml-gyfrannog i nodi dengmlwyddiant I KA CHING, ‘X‘.

Rhagor…
Spotify Cpt. Smith
Soundcloud Cpt. Smith
Fideo ‘Get a Car’
Fideo ‘Pobl Mân’
Fideo ‘Blas Drwg’

Cysylltu…
Twitter: @cptsmith6

Cynnyrch