
Propeller – EP newydd Cpt. Smith
Mae EP cyntaf Cpt. Smith, ‘Propeller’ allan 11 Tachwedd 2016 ar label I Ka Ching a gallwch ei brynu yma neu o’ch siopau a gwefannau cerddoriaeth arferol.
Mae ‘Propeller’ yn crisialu holl gyfnod Cpt. Smith yn chwarae gyda’i gilydd a’r pethau sydd wedi digwydd yn y cyfamser – o’r bydol i’r personol. Mae rhwystredigaethau’r band yn cael eu personoli trwy’r gerddoriaeth, ac mae’r EP yn adlewyrchiad o’r egni sy’n hudo cynulleidfaoedd pan maent yn chwarae’n fyw. Ceir yma ddylanwadau pync, ffync, seicadelia, yn ogystal â darnau gitâr fas a drymiau sydd bron yn hip hop, sy’n creu effaith hypnotig pwerus.
Wrth drafod testun yr EP, meddai Ioan Hazel, (prifleisydd a’r gitâr fas); “Mae’n amrywio – o narcisist ar y we yn ‘Llenyddiaeth’ i gân fel ‘Propeller’ sy’n sôn am sut y mae’r gorllewin wedi creu’r problemau sy’n ein wynebu, trwy flynyddoedd o gam-drin, cymryd mantais a gorfodi credoau ar wledydd y dwyrain. Mae yna sawl ysbrydoliaeth tu ôl i’r caneuon ond rydyn ni am i’r gwrandawyr wneud beth y mynnen nhw ohonynt ac felly ddwedwn ni ddim mwy!”
I gydfynd â rhyddhau’r EP, bydd Cpt. Smith yn ymddangos ar Radio Cymru Mwy ar 10 Tachwedd 2016, i chwarae awr o ganeuon sydd wedi dylanwadu ar aelodau’r band. Cewch ragor o fanylion am hyn ar wefan Radio Cymru Mwy yn agosach at y dyddiad.
Mae Cpt. Smith wedi bod yn chwarae gyda’i gilydd ers 2014. Aelodau’r band yw Jack Brown ar y drymiau, ei frawd Ellis Brown ar y gitâr, Lloyd Jackson ar y gitâr, ac Ioan Hazell yn chwarae’r gitâr fas ac yn canu.
Gigs
11/11/16 – Spillers Records, Arcêd Morgan, Caerdydd
11/11/16 – Cpt. Smith ac Estrons, Clwb Ifor Bach, Caerdydd
*[Llun gan: Ffotograffiaeth Celf Calon Photography – www.celfcalon.co.uk]