
Serol Serol
Dwy gyfnither o Ddyffryn Conwy sydd yn arwain y ffenomena Serol Serol – Mali Siôn a Leusa Rhys – ac maent wedi arwain gwrandawyr ar daith drwy gysawd yr haul ers iddynt gychwyn gydweithio gyda George Amor (Sen Segur, Omaloma) a Llŷr Pari (Palenco, Y Niwl).
Rhyddhawyd dwy sengl sef ‘Cadwyni’ ac yna ‘Aelwyd’ ar ddiwedd 2017 cyn y trac annheg o fachog ‘K’TA’ yn 2018.
Recordiwyd eu albwm seicadelig hunan-deitl yn Stiwdio Glan Llyn, gan greu argraff enfawr ar wrandawyr ac adolygwyr wedi iddo gael ei ryddhau yn 2018.
Yn Mai 2019, rhyddhawyd y sengl ‘Pareidolia’, sy’n trafod y tueddiad o weld wynebau mewn gwrthrychau neu elfennau naturiol – ydyn nhw yno neu ddim? Unwaith eto, mae’r band wedi creu sain arallfydol, hypnotig a chynnes sy’n mynd â’r gwrandäwr i rywle arall. Ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno, rhyddhawyd sengl ddwbl ‘Iwtopia‘.
Roedd ‘Chwalu’r Hud‘ ar y record aml-gyfrannog i nodi dengmlwyddiant I KA CHING, ‘X‘.
Disgrifwyd y ddwy fel ‘Beyonces Cymraeg’ gan Huw Stephens.
Rhagor…
- Spotify Serol Serol
- ‘Pareidolia’ – Serol Serol
- Fideo: ‘Arwres’ – Serol Serol
- Yn Fyw: ‘Aelwyd’ – Serol Serol
- God is in the TV – ‘Introducing Serol Serol’
- SoundCloud
Cysylltu…
- Twitter –@SER0LSER0L
- Ebost – superserolserol@gmail.com