
Sengl Ddwbwl Serol Serol
Rhyddheir sengl ddwbwl Serol Serol, ‘Iwtopia’ a ‘Dau Funud’ ar Label Recordiau I Ka Ching ar 26/07/2019.
Mae ‘Iwtopia’ yn fynegiant o geisio cadw’n gadarnhaol mewn byd sydd i’w weld yn mynd a’i ben iddo – neu, yng ngeiriau’r band, “trio bod yn optimistic yn ganol y shit show ‘ma”. Mae ‘Dau Funud’ yn saib offerynnol krautrock/pop gofodol i’r clustiau sy’n dwyn ysbrydoliaeth gan fandiau megis Kraftwerk.
Mae’r ddwy sengl yma’n rhan o gyfres o dair. Rhyddhawyd ‘Pareidolia’ yn gynharach eleni, ac fe ymdangosodd ar un o restrau chwarae Apple Music.
Serol Serol yw’r ffenomena o Ddyffryn Conwy a gyflwynodd bop gofodol seicadelig i Gymru. Wedi ychydig o ddirgelwch ynghylch aelodau’r band, daeth i’r amlwg mai Mali Siôn a Leusa Rhys oedd y ddwy ofodwraig, gyda Llŷr Pari (Jen Jeniro / Palenco / Y Niwl) a George Amor (Omaloma / Sen Segur) yn dynn ar eu sodlau.
Os yn ffan o’r sengl – cofiwch am eu halbwm gyntaf sy’n dwyn yr un enw â’r band, sydd ar eich platfformau cerddoriaeth ddigidol.
