• Cymraeg
  • English

I KA Ching

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • YouTube
  • Newyddion
  • Artistiaid
  • Siop
  • Gigs
  • Cysylltu
  •  
  • Mwy……Llai
Dewislen

Glain Rhys a Gildas – Eira Flwyddyn Nesa

5 Rhagfyr 2022 | Newyddion

Mae’n bleser gan label recordiau I KA CHING ryddhau pedwaredd sengl Glain Rhys (gyda Gildas) sef ‘Eira Flwyddyn Nesaf’, ar 02.12.22.

Cawsom flas o sain newydd Glain ‘llynedd wedi iddi ryddhau ‘Plu’r Gweunydd’ a ‘Swedish Tradition’, ac mae’r fersiwn iasol o ‘Plu’r Gweunydd’ o Gig y Pafiliwn 2021 yn dal i aros yn y cof.

Cyn rhyddhau rhagor o senglau oddi ar ei halbwm hir-ddisgwyliedig, mae Glain yn ei hôl gyda deuawd Nadoligaidd rhyngthi a’r canwr Gildas (Arwel Lloyd). Mae ‘Eira Flwyddyn Nesa’ wedi ei hysgrifennu o safbwynt rhywun sy’n gorfod mynd i ffwrdd a gadael ei chariad ar ôl.

“Mae hi’n gofyn i’w chariad feddwl amdani pan fydd hi wedi bwrw eira”, eglura Glain, “er ei bod yn gwybod o’r dechrau y bydd y berthynas fer yn gorfod dod i ben, bron fel yr eira sy’n gorfod dadmer.”

Mae Glain wedi bod yn cydweithio’n agos gyda’r cynhyrchydd Osian Huw Williams ar offeryniaeth a chynhyrchiad ei chaneuon ac Osian sy’n chwarae’r holl offerynnau ychwanegol.

Mae dylanwadau newydd Glain yn cynnwys Billie Eillish, Greta Isaac, Orla Gartland a Phoebe Bridgers.

  • Cerddoriaeth

  • Artist dan sylw

    Melda Lois

    +
  • Cynnyrch dan sylw

    Mared – Y DrefnMared

    +
  • Newyddion

    • Am Eiliad / O’r Ddwy Lan – Melda Lois
      3 Tachwedd 2025+
    • Hud – Huw M
      15 Hydref 2025+
    • Ymarfer Byw – Dafydd Owain
      6 Hydref 2025+
  • Ⓗ I KA Ching 2026
    • Fy nghyfrif
    • Cysylltu