
Fuo Chi? – Blodau Papur
Yn codi eu capiau i faledi mawr plentyndod yn y 90au, mae ‘Fuo Chi?’ yn ddathliad o gariad a’r llinynnau tynn sydd rhwng pobl.
Yn wahanol i’r gyriant a geir yn ‘Dŵr’, eu sengl ddiwethaf a arhosodd ar A-list BBC Radio Wales am bythefnos yn olynol, mae ‘Fuo Chi?’ yn dangos ochr dynerach y band, ond gyda mwy o angerdd nag erioed o’r blaen yn llais pwerus Alys Williams.
Unwaith eto, mae geiriau Branwen Williams (allweddellau a llais cefndirol) yn tyrchu’n ddwfn i brofiadau chwerw felys troi’n oedolyn a gwneud penderfyniadau. O dan y chwydd wydr y tro hwn mae ei nain a’i thaid, a sut fod y genhedlaeth honno’n llawer mwy parod iweithio ar rywbeth a’i drwsio, heb ei daflu’n ddifeddwl – boed hynny’n llythrennol neu rhwng dau.
Crëwyd clawr trawiadol y sengl gan Cat Williams, merch Alys a’r cysodi gan Dafydd Owain. Yn ymuno gyda Blodau Papur ar y sacsoffon mae Dafydd Glyn Williams.
Bydd ‘Fuo Chi?’ yn Drac yr Wythnos, BBC Radio Cymru yn ystod wythnos y 25ain o Fai.