
Y Gyllell Lemon – Candelas
O’r diwedd. O’r fflipin diwedd. Mae I KA CHING yn wirion o falch o ryddhau sengl hir (hir) ddisgwyliedig Candelas – ‘Y Gyllell Lemon’ ar 14.02.25.
Cân am ddau ffrind mewn sefyllfaoedd tebyg mewn bywyd yn cael gwyliau annisgwyl gyda’i gilydd o amgylch Gogledd Cymru yw ‘Y Gyllell Lemon’.
“O aros mewn pabell yn Aberdaron i noson yn yr Oakley Arms, i brofi caffis gorau Gwynedd bob amser cinio, roedd yn wyliau bythgofiadwy”, medd Osian, prif leisydd y band. “Mae’r gân yn adlewyrchu’r trip drwy fynd o falu awyr llwyr yn syth i eiriau fwy difrifol wrth i r’un o’r ddau ffrind fod eisiau’r trip ddod i ben.”
“Mae yna lot o nostalgia yn y gân hefyd,” medd Osian ac mae hynny i’w glywed yn sŵn mwy melodic y gân o’i gymharu â’r anthemau trymion. Ond efallai fod hyn i’w ddisgwyl os oedd y trip yn llawn Sobin a’r Smaeliaid, chwilio am leoliadau C’mon Midffîld yn Llanrug, yfed hefo môr ladron Aberdaron tan oriau mân y bore, methu deall sut fod y wlad ’ma’n cael ei rhedeg gan bobl na neith fyth ein dallt ni a meddwi trafod pwy nath losgi tai ha’… Meddyliwch, ma’ rhywun yn rwle’n gwbod…”
Bydd fideo i gyd fynd â’r sengl yn cael ei ryddhau gan Lŵp ar 14.02.25 hefyd.