
Eilio – Martha Elen
Yn dilyn rhyddhau ‘Canu Cloch’ ym mis Ebrill, dyma ‘Eilio’, ail sengl Martha Elen a ryddheir ar label Recordiau I Ka Ching ar 29ain Awst.
Recordiwyd ‘Eilio’ dros gwpwl o ddyddiau a sawl cwpan o goffi yn Stiwdio Sain ym mis Mai 2025.
“Ar gyfer yr ail sengl, oni’n gobeithio cael sŵn ’chydig yn brysurach ac annisgwyl, a ma’ gan ‘Eilio’ deimlad trymach,” meddai Martha. “Mae lot o’r diolch am hyn i Jack a’r pedalboard prysura ’rioed na’th ymuno efo’r criw o gerddorion yn Sain tro’ma – a dwi’n siŵr fod yr holl goffi’n help ’fyd.”
“Ma’r A470 ‘di chwara’ rhan fawr yn fy mywyd i’n ddiweddar. ‘Dw i ‘di symud i fyw adra o Gaerdydd ond dal yn gweld isho cadw un droed yn y ddinas a ddim wir yn siŵr lle sy’ ora gennai. Ond os a’i hefo criw o ffrindia’ i fyny i uchdera’ Eryri rhyw b’nawn, dwi’n anghofio bob dim am be sy’n bellach i’r de na Dinas Mawddwy. Ar ôl un o’r p’nawnia yna dwi’n meddwl ddo’th y syniad tu ôl i’r gân.”
Yn perfformio ar ‘Eilio’ gyda Martha mae Gethin Elis ar y gitâr fas, Iestyn Jones ar y drymiau, Samantha Grace ar y pedal steel a Jack Boles ar y gitâr. Aled Hughes sydd wedi cynhyrchu a chymysgu a hynny’n Stiwdio Sain.
Wedi gig cynta’ lawr yng Nghlwb Ifor Bach yn cefnogi Sŵnami a Cyn Cwsg, ail gig yn cefnogi Ynys yn Llofft, Y Felinheli, a hefyd cefnogi Mellt a Griff Lynch yn Sesiwn Fawr Dolgellau, mae Martha wedi mwynhau haf prysur o gigs yn perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam a hefyd Gŵyl Y Dyn Gwyrdd fel rhan o lwyfan y Settlement Klust a Sain.