EP newydd Carcharorion
Rhyddheir ail EP Carcharorion – ‘Carcharorion’ ar label recordiau I KA CHING ar 25ain o Dachwedd 2016.
Carcharorion yw Huw Cadwaladr a Gruff Pritchard o Gaerdydd. Bu iddynt ryddhau eu EP cyntaf, ‘Hiraeth’ (Peski) ddiwedd 2014, gan greu stamp unigryw wrth samplo gwaith a lleisiau Dr Meredydd Evans a Gerallt Lloyd Owen.
Ar gyfer yr ail EP mae Carcharorion yn gwyro oddi wrth y samplo a chanolbwyntio ar gyfansoddiadau gwreiddiol. Mae’r caneuon wedi datblygu yn bennaf drwy arbrofi gydag arddulliau techno atmosfferig a cherddoriaeth synth o’r 80au, ac wedi datblygu’n naturiol wrth eu perfformio’n fyw. Gwnaed ymdrech i ddefnyddio cymaint o offer ac effeithiau analog ag oedd yn bosib yn ystod y broses recordio, drwy ddechrau hefo grooveelectronig, cyn adeiladu haenau o percussion, effeithiau, a sub bass drostynt.
Ceir yma gydweithio gyda’r unigryw Heledd Watkins (HMS Morris) ar y trac ‘Y Carcharorion’ a’r basydd dwbl Huw V Williams ar ‘Cawsom Wlad’. Cyfrannodd y cynhyrchwyr Chris Jenknis a Llion Robertson hefyd at sain y casgliad.
Mae’r gwaith celf trawiadol unwaith eto wedi ei greu gan yr artist Ceredig ap Dafydd.
I archebu copi o’r EP, cliciwch yma.