Candelas

Mae gyrfa Candelas wedi mynd o nerth i nerth wedi iddynt ryddhau eu halbwm cyntaf, a oedd yn rhannu’r un enw a’r band. Daeth caneuon megis ‘Anifail‘ a ‘Symud Ymlaen‘ yn gyfarwydd iawn i dorfeydd ledled Cymru bron yn syth. Daethant i’r brig mewn tri chategori yng Ngwobrau’r Selar ym mis Chwefror 2015, yn ogystal â chael eu dewis i fod yn un o fandiau prosiect Gorwelion BBC Cymru 2014-15.

Daeth Candelas yn rhan o deulu Ikaching yn Haf 2014, pan ryddhawyd dwy sengl ganddynt, ‘Cynt a’n Bellach’ a ‘Dim Cyfrinach’. Yn dilyn hyn, rhyddhawyd eu hail albwm trydanol, ‘Bodoli’n Ddistaw’, ym mis Rhagfyr 2014.

Lansiwyd ‘Bodoli’n Ddistaw’ mewn gig arbennig yn Neuadd Buddug y Bala, ac fe’i darlledwyd yn fyw ar raglen C2 Radio Cymru, Lisa Gwilym. Gellir gwylio’r set gyfan yma.

Candelas oedd yn cloi Maes B 2015, ac yn cloi y gig gyda cherddorfa’r Welsh Pops yn y Pafiliwn yn Eisteddfod 2016 – dau brofiad a sicrhaodd fod y band yn aros ar frig ymerodraeth y sin gerddorol yng Nghymru. Daeth eu fersiwn o ‘Rhedeg i Paris’ yn anthem tros gyfnod yr Ewros 2016, gyda’r fideo yn cyrraedd tros 100 mil o ‘hits’ – gwyliwch yma.

Rhyddhawyd eu trydydd albwm ym Mehefin 2018, ‘Wyt Ti’n Meiddio Dod i Chwarae?’ gyda gig enfawr yn Neuadd Buddug, Y Bala. Gwyliwch fideo o drac 13 ‘O! Mor Effeithiol’ yma.

Rhyddhawyd eu sengl ddwyieithog, ‘Mae’n Amser / We Think It’s Time‘, a fideo i gyd-fynd â hi, yn 2021. Roedd eu fersiwn cyfyr gyda Nest Llewelyn o ‘Gwylwyr‘ gan Brân ar y record aml-gyfrannog i nodi dengmlwyddiant I KA CHING yn yr un flwyddyn. Rhyddhawyd y sengl ‘Cysgod Mis Hydref‘ yn 2022, ac yn 2023, Candelas oedd yn cloi wythnos yr Eisteddfod ar Lwyfan y Maes. Darlledwyd eu perfformiad yn ddiweddarach ar S4C – gwyliwch yma.

Rhagor…
Spotify Candelas
Soundcloud Candelas
Sesiwn C2 Candelas, 2013
Fideo Wyt ti’n meiddio dod i chwarae…
Fideo Dant Aur
Fideo O! Mor Effeithiol
Fideo Llwytha’r Gwn
Fideo Gan Bo Fi’n Gallu
Fideo Rhedeg i Paris
Fideo Brenin Calonnau
Fideo Stwidio Maida Vale
Fideo Mae’n Amser / We Think It’s Time
Llwyfan y Maes Eisteddfod Genedlaethol 2023

Cysylltu…
Facebook.com/candelasband
Twitter: @Candelasband
E-bost: candelasllan@gmail.com