
Galaru – Talulah
28 Awst 2024 | Newyddion
Mae Recordiau I KA CHING yn falch o gyhoeddi bydd sengl newydd Talulah, ‘Galaru’, allan ddydd Gwener 30ain Awst.
Canwr, cyfansoddwr a DJ o Ogledd Cymru yw Talulah ac maent yn plethu dylanwadau jazz a chlasurol gyda chanu breuddwydiol a harmonïau cyfoethog. Gwnaeth eu senglau blaenorol, ‘Slofi’ a ‘Byth yn Blino’, argraff gref yn syth wrth ddawnsio rhwng genres a chwarae gyda gweadau offerynnol, yn ogystal â’u perfformiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl y Dyn Gwyrdd.
Mae’r sengl newydd, ‘Galaru’, yn ceisio portreadu’r cymysgedd o bŵer, serch a hunanhyder sydd i’w gael o fewn y perthnasoedd cymhleth rhwng pobl. Unwaith eto bu Talulah yn cydweithio gyda’r cynhyrchydd, Llŷr Pari, yn ei stiwdio ym Mae Caerdydd.