Carcharorion

Carcharorion yw’r ddeuawd electronig Huw Cadwaladr a Gruff Pritchard o Gaerdydd. Bu iddynt ryddhau eu EP cyntaf, ‘Hiraeth’ (Peski) yn niwedd 2014, gan greu stamp unigryw wrth samplo gwaith a lleisiai Dr Meredydd Evans a Gerallt Lloyd Owen.

Ymunodd Carcharoion â label Ikaching trwy ryddhau EP sy’n dwyn yr un teitl ag enw’r band yn niwedd 2016. Y tro hwn,  bu iddynt wyro oddi wrth y samplo a chanolbwyntio ar gyfansoddiadau gwreiddiol. Mae’r caneuon wedi datblygu, yn bennaf, drwy arbrofi gyda arddulliau techno atmosfferig a cherddoriaeth synth o’r 80’au, ac wedi  datblygu’n naturiol wrth eu perfformio’n fyw.

Gwaned ymdrech i ddefnyddio cymaint o offer ac effeithiau analog ag oedd yn bosib yn y broses recordio, drwy ddechrau hefo groove electronig, cyn adeiladu haenau o percussion, effeithiau, a sub bass drostynt.

Ceir yma gydweithio gyda’r unigryw Heledd Watkins (HMS Morris) ar y trac ‘Y Carcharorion‘ a’r basydd dwbl Huw V Williams ar ‘Cawsom Wlad‘. Cyfrannodd y cynhyrchwyr Chris Jenknis a Llion Robertson hefyd at sain y casgliad.

Mae’r gwaith celf unwaith eto wedi ei greu gan yr artist Ceredig ap Dafydd.

Roedd ailgymysgiad Carcharorion o gân Steve Eaves, ‘Y Milltiroedd Maith‘, ar y record aml-gyfrannog i nodi denglmwyddiant I KA CHING, ‘X‘.

Rhagor…
Spotify Carcharorion
carcharorion.com
Soundcloud Carcharorion
Fideo ‘Sais’
Fideo ‘Hiraeth’

Cysylltu…
Twitter: @Carcharorion
E-bost: info@carcharorion.com

Cynnyrch