Geth Vaughn

Daw Geth Vaughn o Lanrwst yn wreiddiol, a bu’n dablo gyda cherddoriaeth mewn nifer o fandiau yn yr ysgol.

Symudodd i Fanceinion yn 2005 i astudio cynllunio graffeg, cyn sefydlu cwmni dylunio ac animeiddio Young yn 2009. Dechreuodd arbrofi gyda cherddoriaeth eto wrth greu effeithiau sain a cerddoriaeth ar gyfer animeiddiadau Young.

Meddai Geth: “Nes i sgwennu a recordio cân ‘Cambihafio’ a’i roi o ar soundcloud (jysd mesho o gwmpas o ni) a nath ffrind i fi yrru o i Radio Cymru – a gath o ‘cân yr wythnos’! Yn fuan, recordiais sesiwn  raglan Huw Stephens ar Radio Cymru a defnyddiodd Radio Cymru y gân ‘Tân’ ar gyfer thema agoriadol rhaglen Caryl Parry Jones!”

Ers cael plant, mae ganddo lai o amser i recordio, ond rhyddhaodd ‘Patrymau Angel‘ ar label I KA CHING ddechrau 2020.

Roedd ‘Nia‘ ar y record aml-gyfrannog i nodi dengmlwyddiant I KA CHING, ‘X‘.

Cynnyrch