• Cymraeg
  • English

I KA Ching

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • YouTube
  • Newyddion
  • Artistiaid
  • Siop
  • Gigs
  • Cysylltu
  •  
  • Mwy……Llai
Dewislen

Patrymau Angel – Geth Vaughn

17 Ionawr 2020 | Newyddion

GWRANDO

Bydd sengl newydd sbon Geth Vaughan, ‘Patrymau Angel’ yn cael ei rhyddhau ar 17.01.20 ar label recordiau I Ka Ching. Dyma’r sengl gyntaf gan Geth ers sawl blwyddyn, er bod rhai o’i draciau fel ‘Cath’ yn ffefrynnau ar donfeddi’r radio.

“Ysgrifennais alaw ‘Patrymau Angel’ yn fuan ar ôl i `Nhaid farw tair blynedd yn ôl”, meddai Geth. “Ar y pryd doedd gen i ond geiriau i’r pennill cyntaf, ac mae’r rhan am ‘batrymau angel ar wely gwyn’ yn cyfeirio at fynd nôl i’r ystafell yr oedd Taid ynddi, ar ôl iddyn nhw symud ei gorff, ar dillad gwely heb ei newid.”

“Casglu llwch oedd y demo, nes i mi ei ail ddarganfod yn ddiweddar – mae gweddill y geiriau yn sôn am y broses o alaru. Mae’r sampl ar y diwedd wedi ei gymryd o hen VHS ohonna i a fy chwaer yn siarad efo Taid.”

Cafodd y gân ei recordio yn stiwdio ddylunio Geth ger Manceinion, ble mae’n dylunio ac yn animeiddio o dan yr enw ‘Young’. Ail-gynhyrchwyd a chymysgwyd y gân wedyn gan Llŷr Pari.

Crëwyd y gwaith celf gan Geth trwy ddefnyddio ‘lŵp stop motion’ o angel eira’n symud, a grëwyd trwy rwygo tri deg un patrwm allan o gerdyn gwyn gyda’i ddwylo.

  • Cerddoriaeth

  • Artist dan sylw

    Melda Lois

    +
  • Cynnyrch dan sylw

    Mared – Y DrefnMared

    +
  • Newyddion

    • Fuo Chi? – Blodau Papur
      14 Mai 2026+
    • Sonant – Sonant
      12 Mai 2026+
    • Am Eiliad / O’r Ddwy Lan – Melda Lois
      3 Tachwedd 2025+
  • Ⓗ I KA Ching 2026
    • Fy nghyfrif
    • Cysylltu