Griff Lynch
Griff Lynch yw prifleisydd Yr Ods – band sy’n troedio uchelfannau’r sin gerddoriaeth yng Nghymru. Ers 2015 mae Griff wedi bod yn gweithio ar gynnyrch newydd ar gyfer ei ryddhau dan ei enw ei hun. Er iddo ryddhau ambell i gân unigol o’r blaen, y sengl ‘Hir Oes Dy Wên’ oedd y cynnyrch swyddogol cyntaf. Yn dilyn hynny, rhyddhawyd dwy sengl Saesneg, ‘Don’t Count On Me’ a ‘No One Cares’, ac yna ‘Tynnu Dant’ fis Awst, 2017.
Wrth edrych ar deitlau’r caneuon, efallai y gellid meddwl fod cerddoriaeth unigol Griff ychydig yn bruddglwyfus, ac yntau ei hun yn disgrifio’r caneuon fel ‘coctêl o dor-calon a diflastod’. Ond mae’r geiriau cignoeth, wedi eu cyfosod â electronic eithaf ewfforig a ‘hooks’, yn creu pop sy’n rhedeg yn ôl a blaen o’r tywyllwch i’r goleuni.
Wrth drafod ‘Tynnu Dant’, meddai Griff; “Dw i wedi trio cyfansoddi geiriau blin, reit ffyrnig i gyfleu, weithiau, bod rhaid mod yn ymosodol ond i deimlo unrhyw beth. Mae’n gân reit amwys, heb stori – sy’n rhan o’r un gyfres o ganeuon y byddai’n eu rhyddhau ar yr EP. Dyma’r arddull sy’n dod yn naturiol i mi ar y funud.”
Mae ‘na ôl gwaith ar adeiladwaith y caneuon newydd, sy’n gadael marc ar y cof. ‘Sdim rhyfedd i Griff ddal sylw’r wasg yng Nghymru a thu hwnt – o’r cylchgrawn Electronic Sound i golofn gerddoriaeth The Sun (ie, colofn gerddoriaeth ddwedon ni – dim byd arall!)
Roedd ‘Yr Enfys‘ ar y record aml-gyfrannog i nodi dengmlwyddiant I KA CHING, ‘X‘.
“It’s a modern take on the 80s that’s pushing indie pop in a direction that we can’t help love. The synth settings, the harmonies, the guitars, everything is just spot on here.” – Gigwise
“There’s much more to Griff Lynch’s latest off piste gem than meets the eye.” – Clash
“‘Don’t Count On Me‘ is a prime example of Lynch’s zany approach, bounding from modest piano into huge bolts of blown out synth. Lynch’s powerful vocal brings a splash of fitting rationality to the vivacity that invades throughout.” – Gold Flake Paint
“Griff Lynch’s sparkling new track is a rather crystal testament, of his knack for clever and softly spacey, electro-pop production.” – FAME Magazine
“Huge euphoric synths, teamed with off-kilter piano melodies and beats that display a darker lyrical undercurrent, this tune grabs you and pulls you in immediately from the outset.” – Original Penguin
“Sweet-natured electro pop confections.” – Buzz
Rhagor…
Spotify Griff Lynch
Soundcloud Griff Lynch
Fideo ‘Hir Oes Dy Wên’
Cysylltu…
Twitter: @grifflynch
E-bost: label@ikaching.co.uk