
Hir oes dy wên – Sengl newydd Griff Lynch
Mae prif leisydd un o fandiau mwyaf Cymru wedi penderfynu rhyddhau cynnyrch unigol – rhowch groeso cynnes i Griff Lynch.
Bydd y sengl Gymraeg ‘Hir Oes Dy Wên’ yn cael ei ryddhau yn ddigidol Rhagfyr 16eg.
Griff yw prifleisydd Yr Ods – band sy’n troedio uchelfannau’r sin gerddoriaeth yng Nghymru. Ond nid dyna’r trywydd heddiw. Mae cerddoriaeth unigol Griff yn gwyro tuag at dir mwy ‘DIY’, tywyll ac efallai, digalon. Ond wrth gyfleu’r cyfan trwy gyfrwng pop afieithus, mae’r digalon yn troi’n chwerwfelys, a phwy feddylie y bydde diflastod, anobaith a thor calon yn gallu bod yn fêl i’r clustiau?
Mae Griff wedi recordio’r holl ganeuon gartref, cyn gyrru’r cwbl at Tom Loffman yn Llundain i’w chymysgu.
Er bod Griff wedi rhyddhau ambell i gân unigol o’r blaen, ‘Hir Oes Dy Wên’ yw ei gynnyrch swyddogol cyntaf.