
Mared
Cyn cyrraedd rownd derfynol Cân i Gymru 2018 gyda’i chân, Byw a Bod, adnabyddwyd Mared yn bennaf fel prif leisydd ac allweddellwr y band roc a phop, a chyn-ennillwyr Brwydr y Bandiau C2, Trŵbz.
Gyda chariad tuag at gydweithio gyda artistiaid eraill, dechreuodd y gantores o Ddyffryn Clwyd greu enw fel artist unigol gyda’r deuawd electronic o Leeds, Denton Thrift. Mae ganddi brofiad o recordio a ysgrifennu ar y ddau drac, Fear in the Night a Something Real, sydd efo’i gilydd bellach wedi cyrraedd dros 700,000 o ffrydiau ar Spotify yn unig. Yn fwy diweddar gwelwyd hi’n cydweithio gyda’r band indie, Gwilym a gyda Band Pres Llareggub.
Rhyddhawyd EP byw cyntaf Mared yn Nhachwedd 2017, Noises in the Night, ac yna’r sengl, Dolig Dan y Lloer. Denwyd sylw Alan Raw ar BBC Introducing, Radio Leeds, gyda’r sengl Somber Man oddi ar yr EP.
Mae dylanwadau Mared yn amrywio o Lucy Rose, Dodie, Susan Tedeschi a Melody Gardot, i Courtney Marie Andrews a Maggie Rogers.
Rhyddhawyd ‘Over Again’, a chwaraewyd gyntaf ar raglen Janice Long, Radio Wales, ym Mehefin 2020.
Rhyddhawyd dwy sengl ganddi oddi ar ei darpar albwm gyntaf yn 2019; Dal ar y Teimlad ac Y Reddf. Rhyddhawyd yr albwm arobryn ‘Y Drefn‘ yn 2020, hawliodd y teitl ‘Albwm Cymraeg y Flwyddyn’ Eisteddfod Genedlaethol 2021.
Enillodd Mared ‘Artist Unigol Gorau’ yng Ngwobrau’r Selar ddwy flynedd o’r bron, yn 2021 ac yn 2022.
Cyd-weithiodd â’r pianydd Gwenno Morgan ar y sengl ‘Llif yr Awr‘ ryddhawyd yn 2021.
Roedd ail-gymysgiad Nate Williams o’r gân ‘Dal ar y Teimlad‘ ar y record aml-gyfrannog i nodi dengmlwyddiant I KA CHING, ‘X‘.
Rhagor…
- Spotify Mared
- Mared – Y Reddf
- Mared – ’Dolig dan y Lloer
- Mared – Y Drefn
- Mared – Byw a Bod – Cân i Gymru
Cysylltu…
- Twitter –@maredwilliams
- Facebook – Mared Music Official
- Youtube – Mared