Mynadd

Mae Mynadd yn fand pump aelod o ardal y Bala sydd wedi bod yn ’sgwennu caneuon a pherfformio ers diwedd 2022. Rhyddhawyd eu sengl gyntaf, ‘Llwybrau’, ar label I KA CHING ddiwedd mis Hydref 2023. Caiff llais pwerus Elain Rhys ei gyd-blethu â gitar Math Thomas a’i chwaer Nel ar y bas, gyda Gruffudd ab Owain ar y piano a Cadog Edwards ar y drymiau. Maen nhw’n ymfalchïo yng nghyfoeth cerddorol oesol eu bro, gan ddod ag amrywiaeth o elfennau a dylanwadau ynghyd i dorri eu cwys eu hunain.

Rhyddhawyd eu hail sengl, ‘Dylanwad‘, ym mis Chwefror 2024.

Roedd Mynadd yn un o’r 5 artist i’w gwylio yn 2024 yn ôl yr adolygydd cerddoriaeth Tegwen Bruce-Deans ar wefan BBC Cymru Fyw. Dywedodd: “Mae’n amlwg bod y band wedi bod yn gweithio ar eu sŵn trwy arbrofi gyda chwarae’n fyw, achos mae eu sengl gyntaf, Llwybrau, ag ôl crefft hyderus a gofalus arni. Mae’r allweddellau arddull jazz yn cymryd beth allai fod yn sain band confensiynol iawn i’r lefel nesaf, ac yn dal yn berffaith hunaniaeth eofn a diniweidrwydd hyfryd y bobl ifainc y tu ôl i’r gerddoriaeth hefyd.”

Rhagor:

‘Llwybrau’ – orcd.co/llwybrau

‘Dylanwad’ – orcd.co/dylanwad

Fideo Llwybrau

Cysylltu:

@_mynadd ar Instagram

mynaddband@gmail.com

Cynnyrch