
Dio Mor Hawdd â Hynny? – Mynadd
Mae Recordiau I KA CHING yn falch iawn o gyhoeddi y bydd albwm cyntaf Mynadd – ‘Dio Mor Hawdd â Hynny?’ yn cael ei rhyddhau yn ddigidol 13eg o Fehefin 2025.
Daw teitl yr albwm o eiriau’r gân ‘Llwybrau’, y sengl gyntaf ryddhawyd gan Mynadd ’nôl yn Hydref 2023, ac mae’n rhyw awgrym o’r benbleth a’r newydd-deb ddaw wrth ddod i oed. Dyma’r edefyn thematig sy’n gwau albwm cyntaf y band at ei gilydd; cyfansoddwyd y caneuon dros gyfnod o ddwy flynedd a hanner lle bu’r aelodau’n cyrraedd y chweched dosbarth, mynd i’r brifysgol, byw dramor a mentro i’r byd gwaith am y tro cyntaf.
Er simsanu ar y cwestiwn o genre i’w cerddoriaeth hyd yn hyn, does dim amau fod albwm cyntaf y band yn albwm bop, yn bennaf oherwydd esblygiad y caneuon a gwaith cynhyrchu Ifan Emlyn Jones. Serch hynny, mae yna’n dal i fod elfennau jazz-aidd, funk-aidd, soul-aidd yn rhai o’r caneuon, tra bo’ eraill, fel ‘Tra Môr yn Fur’ ac ‘Y Newid’, yn fwy atmosfferig, neu ‘epig’ hyd yn oed.
Daw hyn i ddal drych at holl liwiau’r cyfnod hwn yn eu bywydau: o’r pruddglwyfus a’r dirdynnol i’r hwyl sydd i’w ganfod yng ngeiriau tafod-yn-y-boch ‘Sbot On’ a ‘Fel’na Ma’i’. Mae’r amrywiaeth yma’n bosib diolch i allu ac ystwythder lleisiol y prif leisydd, Elain Rhys Iorwerth, ac mae diolch i Alys Williams am ei gwaith ymgynghori yn y stiwdio.
Er y gellid pwyntio at ddylanwadau cerddorol o bob math ac o bob cyfeiriad, y dylanwad creiddiol ar albwm cyntaf Mynadd yw cerddorion a grwpiau o Benllyn a ddaeth o’u blaenau; hebddynt, ni fyddai cychwyn canu a pherfformio yn y Gymraeg wedi bod yn beth mor naturiol i’w wneud. Ar ben hynny, mae dylanwad cerddorol y bandiau hynny – Candelas, Y Cledrau, a Blodau Papur – i’w glywed ar sawl un o’r caneuon. Mae’r band yn ddiolchgar am gael gweithio’n agos gyda sawl un o’r cerddorion hynny ar hyd daith yr albwm cyntaf yma.
Mae’r clawr, wedi ei gysodi gan Dyfan Williams, yn arddangosfa weledol o glytwaith cerddorol yr albwm. Meddai Gruffudd, pianydd y band: “Mae’n fraint o’r mwyaf cael rhyddhau albwm cyntaf Mynadd. Mae’n benllanw ar gyfnod cyntaf y band, ac yn gasgliad o’r caneuon sydd wedi cadw cwmpeini i ni wrth i ni wynebu llu o brofiadau newydd ers dod at ein gilydd gyntaf. Dwi wir yn gobeithio y bydd gwrandawyr yn medru clywed a dirnad yr hwyl a’r cyfeillgarwch sydd rhyngom ar y caneuon.”
Mi fydd lansiad swyddogol ‘Dio Mor Hawdd â Hynny?’ ar y 25ain o Orffennaf yn Jac y Do, Caernarfon. Bydd sawl cyfle arall i weld yr albwm yn fyw dros y misoedd nesaf, gan gynnwys yn Tafwyl, Sesiwn Fawr Dolgellau, a’r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam. Mae’r albwm eisoes ar gael ar Bandcamp – a bydd ar y platfformau ffrydio eraill 13.6.25 gyda chopïau caled yn eich siopau lleol ac ar wefan I KA CHING.