• Cymraeg
  • English

I KA Ching

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • YouTube
  • Newyddion
  • Artistiaid
  • Siop
  • Gigs
  • Cysylltu
  •  
  • Mwy……Llai
Dewislen

Adra – Mynadd

16 Ebrill 2025 | Newyddion

Ddydd Gwener, y 18fed o Ebrill, rhyddheir sengl newydd Mynadd, ‘Adra’, ar Recordiau I KA CHING.

Dyma’r rhagflas cyntaf o albwm cyntaf y band pump aelod o Benllyn fydd yn cael ei ryddhau ym mis Mehefin.

Mae’r trac, a’r gwaith celf sy’n cyd-fynd (llun Geraint Thomas wedi’i gysodi gan Dyfan Williams), yn gwahodd aml i ddehongliad o’r cysyniad o ‘adra’ (neu ‘adre’ i ambell un o’r band gollodd y frwydr benodol honno). Boed hynny i’w ganfod yng nghwmni cyfeillion neu anwyliaid, yn nhrugareddau’r tŷ, neu yn y fro o’n cwmpas, mae’n gân sionc sy’n dwyn ei hapusrwydd syml i gof.

Yn oedolion ifanc neu oedolion newydd, daw’n fwyfwy i’r amlwg i aelodau’r band fod cysur yn yr ‘adra’ sy’n eu hangori: “yr un hen wên ac arferion,” fel dywed geiriau’r gân, sydd wedi eu hysgrifennu gan Nel Thomas (bas). Yn y bôn, cân serch ddiniwed sydd yma, ac mae’r gytgan yn un sy’n siŵr o godi canu.

Ifan Emlyn Jones fu’n gweithio gyda’r band ar gynhyrchu’r albwm, a bu Alys Williams draw yn Stiwdio Sain i ymgynghori ar y llais.

Mae haf prysur ar y gweill i’r band; yn ogystal â thaith fer i hyrwyddo’r albwm, mi fyddan nhw’n perfformio yn Tafwyl, Sesiwn Fawr Dolgellau, a’r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.

  • Cerddoriaeth

  • Artist dan sylw

    Kathod

    +
  • Cynnyrch dan sylw

    Mared – Y DrefnMared

    +
  • Newyddion

    • Cawl Llonydd – Carcharorion
      9 Hydref 2026+
    • Dwynwen – Candelas
      9 Hydref 2026+
    • Pop Cymraeg – Candelas
      9 Hydref 2026+
  • Ⓗ I KA Ching 2026
    • Fy nghyfrif
    • Cysylltu