
Palenco
Y melys freuddwydiol Palenco.
Ffurfiwyd y band yn 2014 a bu i’w sengl gyntaf 7”, ‘Bath’ / ‘Saethu Cnau’ (Klep Dim Trep) greu argraff. Ydych chi’n cofio’r clawr, wedi ei greu yn llythrennol, wrth saethu cnau a phaent?! (Gwyliwch yma…)
Mae aelodau Palenco’n gerddorion sefydledig yng Nghymru bellach – Llŷr Pari (Y Niwl, Jen Jeniro, Cowbois Rhos Botwnnog) a Dafydd Owain (Jen Jeniro ac Eitha Tal Ffranco), ond i enwi dau. Dau gerddor sydd wedi chwarae ar bron pob llwyfan bosib yng Nghymru, pan oeddynt yn eu harddegau cynnar. Efallai mai dyma’r rheswm tros aeddfedrwydd y sŵn, y cyfeiriad clir a’r perfformiadau graenus, hudol.
Yn 2015, rhyddhawyd ‘Pysgod Du’ a ‘Swimming’ fel dwy sengl oddi ar eu darpar albwm – ‘Palenco’, a gosodwyd yma linyn anweledig i glymu’r senglau a’r albwm. Treiddai’r un cyfoethogrwydd a manylder trwy’r cyfan. Ceir yma gasgliad o ganeuon sydd wedi eu cyfansoddi ers tros 6 mlynedd, a rhai newydd sbon – “Best of o rywbeth sydd heb ddigwydd eto,” meddai Dafydd. Ond mae’r cwbl yn clymu’n hardd i’w gilydd ar yr albwm, a recordiwyd yn stiwdio Llŷr, gan y band eu hunain.
Mae Palenco hefyd yn falch iawn o glawr trawiadol yr albwm. Dyma ddarn o waith celf gan yr artist Meirion Ginsberg, sy’n gweddu’n berffaith gyda themâu hafaidd a’r llawer o sôn am ddŵr a glywir yn y geiriau.
Rhyddhaodd Palenco y gân ‘Gofyn Cwestiwn’ ar y casgliad i ddathlu pen-blwydd I KA CHING yn 5 oed, sef ‘V’.
Rhagor…
Spotify Palenco
Soundcloud Palenco
Sesiwn C2 Palenco, Ebrill 2014
Fideo Actorion
Cysylltu…
Twitter: @PALENCOband
E-bost: palencoband@gmail.com