• Cymraeg
  • English

I KA Ching

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • YouTube
  • Newyddion
  • Artistiaid
  • Siop
  • Gigs
  • Cysylltu
  •  
  • Mwy……Llai
Dewislen

I KA CHING – 5

5 Mehefin 2016 | Newyddion

Mae label recordiau I KA CHING yn dathlu ei ben-blwydd yn bum mlwydd oed. A pha ben-blwydd sy’n gyflawn heb anrheg neu barti?

Tros y misoedd diwethaf mae pob artist sydd wedi rhyddhau cynnyrch gydag I KA CHING wedi recordio cân newydd sbon neu ailgymysgiad ar gyfer casgliad go arbennig. Bydd yr 16 cân yn serennu ar record ddwbl fendigedig a gallwch ei phrynu ddydd Gwener 22ain o Orffennaf 2016.

Dyma’r rhestr o artistiaid sydd wedi bod yn rhan o deulu cynhyrchiol y label ac sy’n cyfrannu at y casgliad unigryw ac eclectig hwn: Jen Jeniro, Texas Radio Band, Sen Segur, Violas, Siddi, Clwb Cariadon, Yr Eira, Y Reu, Candelas, Sŵnami, Ysgol Sul, Palenco, Y Cledrau, Yr Ods, Huw M a Cpt.Smith.

Diwrnod ar ôl rhyddhau’r record, bydd I KA CHING ar y cyd â Chanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio yn cynnal gig mawr i ddathlu’r pen-blwydd. Diwrnod di-dor o gerddoriaeth gan sawl un o fandiau’r label, gan gychwyn am 3yh yng Nghanolfan Pontio, Bangor. Yn perfformio bydd Candelas, Sŵnami, Yr Ods, Yr Eira, Palenco, Ysgol Sul, Carcharorion, Y Cledrau, Cpt. Smith, a Siddi.

Mae’r tocynnau ar gael i’w prynu rŵan o pontio.co.uk neu trwy ffonio Pontio ar 01248 382828. Maent yn £12 o flaen llaw neu’n £15 ar y drws.

Dewch i ddathlu, troelli a tharo’r llawr dawnsio.

Ymlaen i’r 5 nesaf!

pontio ad- sgwar 2

  • Cerddoriaeth

  • Artist dan sylw

    Kathod

    +
  • Cynnyrch dan sylw

    Mared – Y DrefnMared

    +
  • Newyddion

    • Am Eiliad / O’r Ddwy Lan – Melda Lois
      3 Tachwedd 2025+
    • Hud – Huw M
      15 Hydref 2025+
    • Ymarfer Byw – Dafydd Owain
      6 Hydref 2025+
  • Ⓗ I KA Ching 2026
    • Fy nghyfrif
    • Cysylltu