Serol Serol

Dwy gyfnither o Ddyffryn Conwy sydd yn arwain y ffenomena Serol SerolMali Siôn a Leusa Rhys – ac maent wedi arwain gwrandawyr ar daith drwy gysawd yr haul ers iddynt gychwyn gydweithio gyda George Amor (Sen Segur, Omaloma) a Llŷr Pari (Palenco, Y Niwl).

Rhyddhawyd dwy sengl sef ‘Cadwyni’ ac yna ‘Aelwyd’ ar ddiwedd 2017 cyn y trac annheg o fachog ‘K’TA’ yn 2018.

Recordiwyd eu albwm seicadelig hunan-deitl yn Stiwdio Glan Llyn, gan greu argraff enfawr ar wrandawyr ac adolygwyr wedi iddo gael ei ryddhau yn 2018.

Yn Mai 2019, rhyddhawyd y sengl ‘Pareidolia’, sy’n trafod y tueddiad o weld wynebau mewn gwrthrychau neu elfennau naturiol – ydyn nhw yno neu ddim? Unwaith eto, mae’r band wedi creu sain arallfydol, hypnotig a chynnes sy’n mynd â’r gwrandäwr i rywle arall. Ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno, rhyddhawyd sengl ddwbl ‘Iwtopia‘.

Roedd ‘Chwalu’r Hud‘ ar y record aml-gyfrannog i nodi dengmlwyddiant I KA CHING, ‘X‘.

Disgrifwyd y ddwy fel ‘Beyonces Cymraeg’ gan Huw Stephens.

Rhagor…

Cysylltu…

  • Twitter –@SER0LSER0L
  • Ebost – superserolserol@gmail.com

Cynnyrch