
Yr Ods
Sefydlwyd Yr Ods yn 2006 gan Griff Lynch a Gruff Pritchard tra’r oeddynt yn eu blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn fuan iawn daethant yn bump, (Osian Howells, Rhys Aneirin, Osian Rhys) a rhyddhawyd y sengl ddwbl-A ‘Fel Hyn am Byth/Ffordd Ti’n Troi Dy Lygaid’ (Copa) yn 2008 – caneuon y mae’n anodd iawn dychmygu bod hebddynt.
Rhyddhaodd Yr Ods EP yn dwyn yr un enw a’r band yn 2009 (Copa), yn ogystal â derbyn gwahoddiad i chwarae ar lwyfan y BBC yn Glastonbury ac yn Maes B am y tro cyntaf. Anhygoel meddwl felly, ar ôl rhyddhau eu halbwm cyntaf Troi a Throsi (Copa) yn 2011, iddynt gloi Maes B ar y nos Sadwrn olaf yn Wrecsam, y flwyddyn honno.
Yn 2012 gwelwyd Gwion Llewelyn yn cymryd lle Osian Rhys ar y drymiau, ac yn 2013 rhyddhawyd eu hail albwm, Llithro (Copa).
Aeth Yr Ods ar daith yn 2014 i’r Almaen a Gwlad Pwyl, ble cafwyd cyfle i recordio dwy gân yn stiwdio Funkhaus. Wedi ei adeiladu yn yr hen Ddwyrain Berlin, mae’n cael ei gydnabod fel un o’r adeiladau gorau’r byd a grëwyd yn bwrpasol ar gyfer recordio. Ym mis Hydref 2015, daeth Yr Ods yn rhan o deulu label I KA CHING, gan ryddhau dwy gân ar sengl ddwbl-ochr A, 7 modfedd, sef ’Ble’r Aeth yr Haul’ a ‘Hiroes i’r Drefn’.
Gwelwyd sengl arall gan Yr Ods yn cael ei rhyddhau ar gasgliad amlgyfrannog I KA CHING ‘V‘, sef ‘Tonfedd Araf’.
Rhagor…
Soundcloud Yr Ods
Fideo ‘Ble’r Aeth Yr Haul’
Fideo ‘Addewidion’
Cysylltu…
Twitter: @yr_ods
E-bost: yrods1@gmail.com