• Cymraeg
  • English

I KA Ching

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • YouTube
  • Newyddion
  • Artistiaid
  • Siop
  • Gigs
  • Cysylltu
  •  
  • Mwy……Llai
Dewislen

Sengl 7″ Yr Ods

18 Hydref 2015 | Newyddion

Aelod diweddaraf o deulu I Ka Ching yw’r peiriant hits a elwir Yr Ods. Ar y 9fed o Hydref 2015, byddant yn rhyddhau sengl ddwbl-ochr A, 7 modfedd; ‘Ble’r Aeth yr Haul’ a ‘Hiroes i’r Drefn’. Efallai i rai ohonoch wylio fideo ‘Ble’r Aeth yr Haul’ eisoes (os na, gwyliwch isod), sy’n dangos y band yn recordio’r sengl hon ym Merlin. Yn ystod taith a oedd yn cynnwys ymweliad â Leipzig (Yr Almaen) a Poznan (Pwyl), penderfynwyd defnyddio diwrnod rhydd yn stiwdio Funkhaus. Wedi ei adeiladu yn yr hen Ddwyrain Berlin, mae’n cael ei gydnabod fel un o’r adeiladau gorau’r byd â grëwyd yn bwrpasol ar gyfer recordio. Wedi dymchwel y wal, bu’r adeilad yn wag am gyfnod, cyn profi bwrlwm o’r newydd fel lleoliad celfyddydol.

Mae Yr Ods yn gwyro tuag at sŵn tywyllach, ychydig yn fwy amgen na’r cynnyrch blaenorol, ond eto’n dangos eu gallu dihafal i liwio’u caneuon tuag at uchafbwynt o felodïau bachog, grymus. Fel ag y clywir aml i waith yn eu caneuon, mae Yr Ods yn rhoi llais i’r rhwystredigaeth gwleidyddol a diwylliannol all gorddi y tu mewn i rywun.

Mae gwaith celf y record wedi ei greu gan yr artist Ani Saunders, a bydd nifer cyfyngedig yn unig ohoni ar gael o’ch siopau a gwefannau cerddoriaeth arferol yn ogystal ag ar ein siop arlein.

Dyma fideo i’r gân Ble’r Aeth yr Haul:

 

  • Cerddoriaeth

  • Artist dan sylw

    Melda Lois

    +
  • Cynnyrch dan sylw

    Mared – Y DrefnMared

    +
  • Newyddion

    • Am Eiliad / O’r Ddwy Lan – Melda Lois
      3 Tachwedd 2025+
    • Hud – Huw M
      15 Hydref 2025+
    • Ymarfer Byw – Dafydd Owain
      6 Hydref 2025+
  • Ⓗ I KA Ching 2026
    • Fy nghyfrif
    • Cysylltu