
Y Reu
Mae’r byd yn llawn bandiau clasurol sydd â dylanwadau clasurol, y mae modd rhagweld eu casgliad o recordiau wedi clywed 10 eiliad o un gân. Nid yw hyn yn wir am Y Reu.
Ar yr olwg gyntaf, mae’r band yn swnio fel Jim Morrison anweddus yn canu gyda Royal Blood drwy gyfrwng y Gymraeg (‘Darnau Bach’), ac yna mae’n cyfuno cerddoriaeth house gydag atseiniau Happy Mondays…band oedd wedi gweld dyddiau gwell ymhell cyn i unrhyw aelod o Y Reu gael eu geni (‘Haf’).
Band pum person o Ddyffryn Nantlle / Caernarfon yw Y Reu ac mae ei setiau byw nwydwyllt eisoes wedi arwain at ddawnsio gorffwyll o Faes B yr Eisteddfod i Glwb Ifor Bach. Braf yw cael eich rhyfeddu gan griw yn rhoi eu stamp eu hunain ar gerddoriaeth roc a rôl y gorffennol, ac mae Y Reu yn dipyn o ryfeddod.
Rhyddhawyd EP Y Reu ‘Hadyn’ ar label I KA CHING yn 2015.
Meddai Y Reu ar raglen Gwyn Eiddior, C2; “’Da ni wedi trio creu’r sŵn uchaf posib – i dy ddychryn di! Rydyn ni’n teimlo ein bod ni’n agosáu at ffeindio sŵn ‘da ni’n hapus ag o. ‘Dw i’n meddwl ein bod ni wedi gwella’n dechnegol ac wedi dysgu lot o’n hen ganeuon. ‘Da ni wedi cadw at y cynhyrchu sydd i’w glywed ar ganeuon fel ‘Diweddglo’ – yr agweddau electro, dancy, ond eto wedi creu sŵn trwm hefyd – yn enwedig o ran y drymiau… Dyma’r casgliad o ganeuon hapusaf i ni ‘rioed ‘sgwennu! Mae’r EP bron yn un gysyniadol am fyd ffantasi, ac yn dipyn llai blin na’n caneuon blaenorol.”
Rhagor…
Spotify Y Reu
Soundcloud Y Reu
Darnau Bach ar Ochr 1, 2014
Gwell Na Hyn ar Ochr 1, 2015
Mhen I’n Troi ar Ochr 1, 2015
Cysylltu…
Facebook: facebook.com/yreumusic
Twitter: @y_reu
E-bost: y-reu@hotmail.co.uk