
Hadyn – EP Newydd Y Reu
Ar Orffennaf 20fed 2015, bydd Y Reu yn rhyddhau eu EP cyntaf, Hadyn. Cynhelir noson lansio ar ddechrau Gŵyl Arall yng Nghlwb Canol Dre Caernarfon nos Wener 17eg o Orffennaf, gydag Uumar a Chwalfa yn cefnogi.
Mae Y Reu yn rhan o glytwaith sin gerddorol Cymru ers sawl blwyddyn bellach. Ers mynnu sylw o’r dechrau un gyda’r gân ‘Symud Ymlaen’, mae eu gallu i uno amryw o arddulliau, yn bennaf ‘house’ a roc wedi sicrhau perfformiadau byw tanllyd. Ar Hadyn, gwelwn allu’r hogiau i arbrofi fwyfwy gyda’r cymysgu arddulliau, synau trwm, egnïol – EP sy’n mynnu cael ei chwarae’n uchel.
Meddai Y Reu ar raglen Gwyn Eiddior, C2; “’Da ni wedi trio creu’r sŵn uchaf posib – i dy ddychryn di! Rydyn ni’n teimlo ein bod ni’n agosáu at ffeindio sŵn ‘da ni’n hapus ag o. ‘Dw i’n meddwl ein bod ni wedi gwella’n dechnegol ac wedi dysgu lot o’n hen ganeuon. ‘Da ni wedi cadw at y cynhyrchu sydd i’w glywed ar ganeuon fel ‘Diweddglo’ – yr agweddau electro, dancy, ond eto wedi creu sŵn trwm hefyd – yn enwedig o ran y drymiau… Dyma’r casgliad o ganeuon hapusaf i ni ‘rioed ‘sgwennu! Mae’r EP bron yn un gysyniadol am fyd ffantasi, ac yn dipyn llai blin na’n caneuon blaenorol.”
Yn ddiweddar, dewiswyd y band o Eryri fel un o 12 artist cynllun Gorwelion y BBC, ac mae rhestr gigs cyflawn i’w weld yma.