
Albwm newydd Siddi – Dechrau `Nghân
Mae albwm fer Siddi, ‘Dechrau `Nghân’ allan! Cliciwch YMA i’w phrynu!
Bydd nifer cyfyngedig o gopïau caled ar gael yn y siopau, a chyfle i brynu’n ddigidol o’r gwefannau cerddoriaeth arferol.
Prosiect gwerin-amgen y brawd a’r chwaer Osian a Branwen Williams o Lanuwchllyn yw Siddi, sydd fel arfer yn cael eu cysylltu’n amlach gyda bandiau megis Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog ac Alys Williams. Yng nghanol prysurdeb y bandiau eraill, mae’r ddau yn mwynhau’r rhyddid i arbrofi gyda’r genre gwerin o dan yr enw Siddi, gan fynegi eu hunain yn gerddorol mewn ffordd na fyddai’n gweddu i’r bandiau eraill.
Mae ‘Dechrau `Nghân’ yn gasgliad o ganeuon sy’n cwmpasu adegau gwahanol ym mywydau’r ddau dros y pedair blynedd diwethaf, o’r llon i’r lleddf. “Mae’r albwm yn ‘llyfr sgrap’ o wahanol deimladau a syniadau,” meddai Branwen. “Roedd ein halbwm gyntaf ni – ‘Un Tro’ – yn un gysyniadol, ac wedi ei recordio’n hollol fyw mewn ychydig ddyddiau. Tro `ma, fe aethon ni i’r pegwn arall – peidio dilyn thema gerddorol, defnyddio faint bynnag o offerynnau ag oedden ni eisiau, a mynd i’r stiwdio pan oedden ni’n gallu!”
Recordiwyd y gân ‘Dechrau `Nghân’ yn wreiddiol ar gyfer y casgliad aml-gyfrannog ‘I KA CHING V’ a recordiwyd y fersiwn o ‘Rho Im Yr Hedd’ ar gyfer y gyfres ‘Emyn Roc a Rôl’ ar BBC Radio Cymru. Mae ‘Pwy Roiff Fenig’ yn fersiwn o’r gân werin Americanaidd ‘Who’s Gonna Shoe’, ble clywir triawd rhwng Branwen a Lisa Jên (9 Bach) ac Elan Rhys (Plu/Bendith). Cwpled gan T. Gwynn Jones sydd wedi sbarduno ‘Wyt Ti’n Ei Chofio Hi?’, sef “ A feddo gof a fydd gaeth, cyfaredd cof yw hiraeth”, ac mae ‘Dim Ond Heddiw Tan Yfory’ yn pwyso’n drwm ar ddylanwadau Americana. Canlyniad myfyrio’n llawer rhy ddwys ydi ‘Teigr’ ar ôl gwrando’n helaeth ar gerddoriaeth Nick Drake a’i fam ac mae ‘I’r Rhai Sy’n Caru’ yn un danchwa uchel, i gloi’r albwm mewn steil.
Recordiwyd a chynhyrchwyd yr albwm gan Siddi yn Stiwdio Drwm, Llanllyfni ac fe’i cymysgwyd gan Aled Hughes.
Ariannwyd yr albwm yn rhannol gan nawdd cronfa Gorwelion y BBC.