Ysgol Sul

Mae Ysgol Sul yn grŵp tri aelod o Landeilo – Iolo Jones (Gitar a llais), Cian Owen (bas) a Llew Davies (drymiau).

Dechreuodd y grŵp berfformio gyda’i gilydd ddechrau haf 2014, gan gipio teitl Brwydr y Bandiau Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2014, a pherfformio ar lwyfannau Gŵyl Gwydir, Gŵyl Crug Mawr a Maes B yn dilyn hynny.

Mae sŵn y grŵp yn eithaf unigryw o’i gymharu â llawer o grwpiau cyfoes Cymru ar hyn o bryd – mae’r grŵp yn disgrifio eu sŵn fel “lo-fi indie gyda thinc o shoegaze”.

Rhyddhawyd dwy sengl ganddynt ar label I KA CHING i ddechrau, sef un o’u caneuon mwyaf poblogaidd ‘Aberystwyth yn y Glaw’ a ‘Machlud Haul’.

Aeth y band yn ôl i weithio gyda Llŷr Pari (Palenco, Niwl, Cowbois Ros Botwnnog), gan greu sŵn fwy trwchus, arafach ac hyd yn oed yn fwy breuddwydiol ar gyfer eu EP ‘Huno’ a ryddhawyd yn 2015.

Rhagor…
Spotify Ysgol Sul
Soundcloud Ysgol Sul
Sesiwn C2 Ysgol Sul, Tachwedd 2014
Perfformiad yn Monnow Valley (gyda Carcharorion) 2016

Cysylltu…
Twitter: @YsgolSul3
E-bost: ysgolsul3@gmail.com

Cynnyrch