
Huno EP – Ysgol Sul
5 Rhagfyr 2015 | Newyddion
Mae Label Recordiau I KA CHING yn ‘chydig o gîcs pan mae’n dod i weld bandiau ifainc yn mynd o nerth i nerth. Neb yn fwy nag Ysgol Sul. Wedi ennill Brwydr y Bandiau Maes B 2014, recordio Sesiwn C2 a rhyddhau dwy sengl ddigidol, mae’n fraint bellach eu gweld yn rhyddhau eu cynnyrch caled cyntaf – EP 5 cân o’r enw ‘Huno’.
Wedi mynd yn ôl i weithio gyda Llŷr Pari (Palenco, Niwl, Cowbois Ros Botwnnog), mae sŵn y band yn fwy trwchus, yn arafach ac hyd yn oed yn fwy breuddwydiol yn y casgliad yma o ganeuon. Gwelir Ysgol Sul yn arbrofi gyda haenau o synau i greu dyfnder, yn hytrach falle na’r sŵn fwy minimal a geir yn ‘Aberystwyth yn y Glaw’.
Mae’r EP bellach ar gael yma, neu o’ch siopau lleol