
Dwynwen – Candelas
Rhyddheir ‘Dwynwen’ ar label recordiau I KA CHING ar 11eg o Fedi, 2026 Rhyddheir yr albwm ‘Pop Cymraeg’ 20fed o Dachwedd, 2026.
Wedi cael ein taro gan y trac sy’n rhoi ei henw i bedwerydd albwm Candelas cyn yr haf – ‘Pop Cymraeg’ – dyma drac pwerus, grymus arall i’n llorio cyn i’r albwm gyrraedd ein dwylo.
“Cân serch sydd yma yn y bôn”, eglura Osian, prif leisydd y band. “Cafodd fy chwaer fabi yn lled-ddiweddar, a’r munud y gwnes iglywed yr enw yn y car, ddoth hook y gân yn syth i `mhen i.”
“Dyma un o’r caneuon mwya difyr i fi sgwennu dw i’n meddwl, a dw i’n mwynhau fod dylanwad Jeff Buckley wedi dod mewn iddi allan o nunlle! Yn y gân yma mae hoff ddarn y band i gyd o’r albwm…, ond nawn ni’m deud lle!”
Bydd ‘Dwynwen’ yn Drac yr Wythnos ar Radio Cymru ddydd Llun 7/9/26 a bydd fideo i ddilyn yn fuan iawn.
Rhyddheir ‘Pop Cymraeg’ 20fed o Dachwedd a bydd cyfle i weld perfformiad byw o’r cyfanwaith mewn lansiad arbennig yn Theatr Derek Williams, Y Bala ar 28ain o Dachwedd. Bydd tocynnau ar werth o wefan y theatr.