
Pop Cymraeg – Candelas
Mae Candelas, un o fandiau mwyaf dylanwadol Cymru ers y 2010au, yn gwneud eu dychweliad hir‑ddisgwyliedig ar 29.07 gyda Pop Cymraeg, sengl newydd sbon ar label I KA CHING. Dyma’u cerddoriaeth newydd gyntaf ers blwyddyn ac mae ‘na addewid o’r diwedd am albwm newydd cyn diwedd 2026.
Yn dilyn cau Tafwyl o flaen torf orlawn yng Nghastell Caerdydd, mae’r band yn camu i’r bennod nesaf gyda hyder grŵp sydd wedi siapio cerddoriaeth Gymraeg ers degawd a mwy. Mae Pop Cymraeg yn cyflwyno Candelas ar eu gorau.
“Sialens ydi Pop Cymraeg i greu cân drom ond hapus. Rhywbeth i danio rhywbeth yn y bol a’r meddwl, ond hefyd i symud y traed. Roedd hi’n bleser ei chwarae hi am y tro cyntaf yn Nhafwyl.”
Bydd y band yn chwarae cyfres o sioeau dros yr haf:
2/8 – Maes D, Eisteddfod Genedlaethol, 3pm
2/8 – Llwyfan y Maes, Eisteddfod Genedlaetholdlaethol, 9pm
5/8 – Maes B, Eisteddfod Genedlaethol
Mae Pop Cymraeg yn nodi dechrau cyfnod newydd i un o fandiau mwyaf arwyddocaol Cymru: sengl newydd, dychweliad mawr ac albwm ar y gorwel.