Siddi

Branwen Haf (Cowbois Rhos Botwnnog, Blodau Papur) ac Osian Huw (Candelas, Blodau Papur), y brawd a’r chwaer o Lanuwchllyn yw’r cerddorion prysur tu ôl i sain gwerinol Siddi. Rhyddhawyd eu albwm cyntaf yn 2013 o’r enw ‘Un Tro’. Albwm cysyniadol ydoedd wedi ei selio ar chwedl tylwyth teg o Gwm Cynllwyd. Ffrwyth llafur dwy flynedd o gydweithio oedd yr albwm hon, gyda pob cân yn feicrosgôp ar ddarnau bach yr hanes trist.

Yn 2018, rhyddahwyd yr albwm hir-fer ‘Dechrau ‘Nghân’ a oedd yn gyfle i’r ddau arbrofi ymhellach o fewn y genre gwerin amgen, ymysg prysurdeb prosiectau cerddorol eraill y ddau.

Rhyddhawyd ‘Matholwch‘, sy’n dychmygu beth fyddai Matholwch yn ei ddweud heddiw wrth edrych ar ei berthynas gyda’i wraig, yn 2021, a daeth fideo i gyd-fynd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol – gwyliwch yma. Yn 2022, rhyddhawyd ‘Mabli‘ ar y casgliad aml-gyfrannog i nodi dengmlwyddiant I KA CHING, ‘X‘.

Rhagor…

Cysylltu…

Cynnyrch