
Matholwch – Siddi a Siobhan Owen
Mae un o lawysgrifau enwocaf Cymru wedi ysbrydoli prosiect cerddoriaeth arbennig gan yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n pontio rhwng Cymru ac Awstralia.
Cafodd y band Siddi o Lanuwchllyn a’r cerddor, Siobhan Owen, sydd â’i gwreiddiau ar Ynys Môn ond sy’n byw yn Awstralia, eu cyfareddu gan y straeon yn Llyfr Gwyn Rhydderch, diolch i Maredudd ap Huw o Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Gellir ffrydio un o’r caneuon, sef Matholwch, ar y platfformau digidol drwy label newydd yr Eisteddfod, Label EG a label Siddi, Recordiau I Ka Ching.
Meddai Trefnydd a Phennaeth Artistig yr Eisteddfod, Elen Elis, “Ry’n ni wedi bod yn gweithio gyda Gŵyl Geltaidd Genedlaethol Awstralia ers peth amser, ac mae wedi bod yn bleser creu’r cywaith rhwng Siddi a Siobhan Owen.
“Mae’u cerddoriaeth nhw’n asio’n berffaith gyda’i gilydd ac mae’r ffaith eu bod nhw wedi’u hysbrydoli gan un o’n llawysgrifau mwyaf gwerthfawr fel cenedl wedi rhoi cyfle i ni edrych ar y chwedlau a’r cymeriadau mewn ffordd hollol ffresh a newydd.
“Ry’n ni’n edrych ymlaen at weld sut mae’r prosiect yma’n datblygu ymhellach dros y misoedd nesaf, ac ry’n ni hefyd yn teimlo’n gyffrous iawn fod y gerddoriaeth yn cael ei ryddhau ar label gerddoriaeth newydd yr Eisteddfod, Label EG, a chyda label Siddi, Recordiau I Ka Ching.”
Bydd cân arall o’r cywaith, Cylch Casineb, yn cael ei rhyddhau’n fuan. Mae fideos ar gyfer y ddwy gân ar gael i’w gwylio ar sianel YouTube yr Eisteddfod, gyda’r fideo ar gyfer Matholwch wedi’i greu a’i gyfarwyddo gan Jonny Reed.