
Cpt. Smith – Llenyddiaeth // Bad Taste
Clywch, clywch! Aelodau diweddaraf teulu label I KA CHING yw’r band pync seicadelig o Orllewin gwyllt Cymru; Cpt. Smith.
I ddathlu hyn, rhyddheir dwy sengl ddigidol gan y band, sef Llenyddiaeth (allan Ebrill 15fed) a Bad Taste (allan Mai 13eg) .
Mae Llenyddiaeth yn gân fwy cymhleth sy’n plethu dylanwadau ffync a seicadelig, yn ogystal â darnau gitâr fas a drymiau sy’n ymylu ar fod yn hip hop. Daw agwedd y band i’r amlwg drwy’r geiriau unwaith eto yn Llenyddiaeth, wrth iddynt fynd ati i fychanu’r gwybodusion hollwybodus, a’r rhai sy’n deall dim am fywyd, mewn gwirionedd! Mae’r ail sengl, Bad Taste, yn gân pync flin iawn ac sy’n symbylu agwedd ac ysfa’r band ifanc i ddweud eu dweud am eu rhwystredigaethau a’u sefyllfa yn y byd o’u cwmpas.
Mae Cpt. Smith wedi bod yn chwarae gyda’i gilydd ers ychydig dros flwyddyn bellach. Aelodau’r band yw Jack Brown ar y drymiau, ei frawd Ellis Brown ar y gitâr, Lloyd Jackson ar y gitâr, ac Ioan Hazell yn chwarae’r gitâr fas ac yn canu. Mae’r band wedi bod yn recordio yn Studiowz yn Hwlffordd, ac yn credu fod teimlad y lle yn dylanwadu ar y sain sy’n cael ei ddal yn y senglau.
Mae’r sawl sydd wedi gwylio Cpt. Smith yn fwy yn ymwybodol o’r egni hypnotig sydd ganddynt, ac o ystyried nad ydi’r hogie wedi hyd yn oed sefyll eu harholiadau TGAU eto, mae’n gyffrous dychmygu i ble yr awn nhw nesaf.
Gwyliwch berfformiad byw o Blas Drwg isod (fersiwn Gymraeg o’r sengl Bad Taste)