
Peiriant Ateb – Y Cledrau
Rhyddheir albwm gyntaf Y Cledrau – Peiriant Ateb ar y 1af o Ragfyr 2017 ar label recordiau I Ka Ching. Bydd ar gael i’w llwytho o’ch gwefannau cerddoriaeth ar 1af o Ionawr 2018.
Ers diwedd Awst 2017, mae’r band wedi bod yn rhyddhau traciau’r albwm bob yn ychydig i’w chwarae ar Radio Cymru a Radio Wales. Bu ‘Cliria Dy Bethau’ yn Drac yr Wythnos ddechrau Medi a chwaraewyd ‘Swigen o Genfigen’ fel rhan o ‘mix tape’ Bethan Elfyn ar Radio 6.
Wrth holi’r band am y profiad o gyflawni’r albwm, meddai Marged Gwenllian (gitâr fas), “Roedd hi’n dipyn o sioc gorffen popeth ar amser! Roedd pob rhan o’r broses yn haws na recordio’n EP cyntaf -Un Ar Ôl y Llall. Fe aethon ni i Stiwdio Drwm tro ‘ma, yn hytrach na recordio rhwng Tŷ Siamas a thŷ Ifan (Emlyn, Candelas), ond roedden ni’n sicr ein bod am barhau i weithio hefo Osian (Williams, Candelas) ac Ifan. Fe wnaethon ni’n gallach a thrio recordio mewn talpiau o gyfnodau, yn hytrach na mewn tameidiau bach. Roedd bod yn awyrgylch y stiwdio yn helpu’r broses yn ofnadwy, ac roedd popeth yn llifo’n dipyn rhwyddach.”
“Mae’n sŵn ni dal yr un peth mewn gwirionedd,” eglurodd Joseff (prif lais a gitâr) wrth sôn am y daith rhwng yr EP ‘Un Ar Ôl y Llall’ a’r albwm. “Y gwahaniaeth mwyaf oedd cael amser i ddatblygu’n sŵn yn iawn y tro hwn. De ni wedi aros yn driw i’n gwreiddiau – yr un sŵn – ond ‘de ni wedi gallu ehangu ac arbrofi ychydig – ond fel cyfanwaith, mae o reit debyg. Mae ‘Cliria Dy Bethau’ a ‘Peiriant Ateb’ yn nodweddiadol o’n ffordd ni o gyfansoddi caneuon, ond aethon i gyfeiriad sŵn trymach ar ‘Fy `Nabod I’ a rhyw fath o pop roc yn ‘Swigen o Genfigen’.”
Mae Y Cledrau wastad wedi bod yn greadigol wrth feddwl am enwau caneuon, ac nid yw trac cynta’r albwm yn eithriad. Beth felly ydi’r hanes y tu ôl i ‘Roger, Rodger!’ tybed. Ateb Joseff oedd; “Mae’r gan yn sôn am beilot a aeth i drafferthion uwch Llyn Maelog, yn Llanfaelog yn 1965 ac a blymiodd i’r llyn. Mae’n debyg fod ei gorff o’n dal i fod yno, ac mae’r gan yn trafod yr holl bethau fydde fo wedi ei glywed ‘dan y dŵr. Er enghraifft, ‘de ni’n ymarfer mewn cwt reit ar lan y llyn, felly mae’n siŵr fod y cr`adur yn clywed ein sŵn ni’n dragywydd. MI wnaethon ni benderfynu cael tynnu ein lluniau wrth ochr y llyn hefyd – lot o gysylltiadau!”
Os am aros yn driw i’w sŵn, aros yn driw i’r un crëwr gwaith celf wnaeth Y Cledrau eto’r tro hwn. Steffan Dafydd sydd wedi creu’r ddelwedd o’r fenyw fecanyddol celf, a Dafydd Owain wedi gwneud y gwaith cysodi.
Gellir prynu ‘Peiriant Ateb’ yn eich siopau cerddoriaeth neu o’r wefan hon!