
Rhag-archebwch albwm newydd Mared!
Rhowch glic YMA i rag-archebu
albwm newydd Mared, ‘Y Drefn’
“Dyma artist sy’n teimlo’n gwbl gyflawn o’r nodyn cynta’ un” – Georgia Ruth
“Ma’ llais Mared yn ddifregwawd” – Lisa Jên, 9Bach
”Llais arallfydol… Artist i’w thrysori.’’ – Lleuwen
Pleser o’r mwyaf i Recordiau I KA CHING yw cael rhyddhau albwm gyntaf Mared; Y Drefn ar yr 21ain o Awst 2020. Bydd yr hanner cant cwsmer cyntaf yn derbyn print arbennig wedi ei greu gan Mared ei hun.
Disgrifia Mared Y Drefn fel plethwaith o ddylanwadau gwerin, pop a jazz. O edrych ar neges y cyfanwaith, mae’r gân agoriadol, Y Reddf, yn trafod newid a chadw gafael ac yna’r gân olaf Dal ar y Teimlad yn ein gadael gyda neges o obaith a medru symud ymlaen. Beth bynnag fo’r arddull, beth bynnag fo’r neges, mae llais Mared yn serennu yng nghanol y cyfan ac yn mynnu sylw.
Ysgrifennwyd a threfnwyd y caneuon dros y chwe blynedd diwethaf, ac yn anochel felly mae llawer o newid ac addasu i’w glywed yn y gerddoriaeth, yn enwedig felly wedi dechrau recordio a chwarae yn fyw efo Osian a Branwen Williams ac Ifan Emlyn yn Stiwdio Sain yn 2019.
Wedi byw rhwng dinasoedd a’i chartref gwledig yng Nghymru, mae trafod ei hunaniaeth yn thema bwysig i Mared, ac yn cael ei bwysleisio fwyfwy yn y gân jazz Pontydd. Mae cymaint wedi digwydd i’r byd yn y chwe mlynedd ddiwethaf, yn enwedig y misoedd a fu ac mae’r caneuon yn parhau i ffurfio ystyron newydd, ac yn trafod pynciau sydd mor bwysig ag erioed i Mared eu lleisio.
Mae pedair sengl oddi ar yr ‘Y Drefn; eisoes wedi eu rhyddhau, a chawsant dderbyniad arbennig ar raglenni Janice Long, Adam Walton a Bethan Elfyn ar BBC Radio Wales. Bu Over Again ar restr chwarae Radio Wales am dair wythnos o’r bron, a Dal ar y Teimlad a Pontydd yn Drac yr Wythnos ar BBC Radio Cymru.
Mae enw Mared fel perfformwraig wedi mynd o nerth i nerth; nid ar chwarae bach y mae rhywun yn derbyn rhan yng nghynhyrchiad diweddaraf y West End o Les Misérables, a agorodd fis Ionawr 2020 yn Theatr Sondheim, Llundain. Serennodd hefyd yn y cyngerdd dathlu Sain yn 50 gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cyngerdd Sioeau Cerdd Eisteddfod Amgen, a Chyngerdd Yr Eisteddfod Goll. Cydweithiodd Mared gyda’r ddeuawd electronig Denton Thrift ac mae’r caneuon Fear in the Night a Something Real wedi cyrraedd dros 700,000 o ffrydiau ar Spotify.
Ymhlith ei dylanwadau y mae Laura Mvula, Lucy Rose, Celeste, Madison Cunningham, Georgia Ruth, Lianne La Havas a Faye Webster.
Canmoliaeth i Mared ac Y Drefn
“Albwm pop perffaith sy’n dwyn dylanwadau o fyd jazz i’r gwerin. Llais enfawr, pwerus, llawn enaid a chyfoeth sy’n mynnu pob cnewyllyn o dy sylw.”
-Angharad Jenkins, Calan a DnA
“Mae enaid diymhongar Mared nid yn unig i’w glywed yn ei llais ond yn ei ‘sgwennu. Dihangfa fendigedig.”
-Elan Rhys, Plu
“Dwi caru albwm newydd Mared – mae ei llais yn creu ymdeimlad o heddwch wedi’i gyfuno â synau meddal breuddwydiol.”
-Eädyth
”Llais arallfydol a’i chaneuon mor llawn o obaith. Artist i’w thrysori.’’
-Lleuwen
“Gwefreiddiol a naturiol. Fel tase’i ‘di bodoli erioed.”
-Marged, Y Cledrau
“Gyda threfniannau hardd, drymiau meddal ac alawon swynol, mae albwm Mared, ‘Y Drefn’, fel lapio’ch clustiau mewn blanced felfed cynnes.”
-Elin, Thallo
“Mae’r holl gynhwysion hanfodol ar gyfer casgliad digymar yma’n glir i’w gweld: gwreiddioldeb y caneuon; y trefniannau celfydd; y didwylledd sy’n treiddio’r cwbl lot; ac wrth gwrs un o’r lleisiau mwya’ syfrdanol dwi ‘di clywed ers tro byd.”
-Siân James
“Mae llais Mared yn deilshys, yn bert, yn llawn tensiwn a grit a gorfoledd, ond eto fel bod adre o flaen tân. Mae hi’n deall ei hofferyn mor dda ac yn defnyddio pob twll a chornel ohono – ‘chi’n mynd i fod yn obsessed.”
-Lisa Angharad, Sorela
“
“Ma’ llais Mared yn ddifregwawd. Ma’n gallu mynd i rwla a ti’n trysdio eith o byth i’r lle rong. Dwi’n dilyn hi ar insta ac ma hi wastad yn canu, yn creu, yn ymgolli yn be ma hi’n neud felly ma hi’n denu chdi fewn – hudolus.”
-Lisa Jen, 9Bach
“Tôn gynnes a sain gysurus – cyfuniad perffaith i’r dydd sydd ohoni. Llongyfarchiadau iddi.”
-Ani Glass
“Mae Mared yn hollol wych! Ei llais, ei chaneuon a’i phersonoliaeth! Ar ôl bod ar daith hefo hi, ro’n i’n ffeindio’n hun yn canu ei chaneuon am wythnosau.”
-Alys Williams
“Dwi’n cael y teimlad fod Mared yn un o’r eneidiau yna sy’n gorfod canu – ein pleser ni yw’n bod ni’n cal gwrando arni! Dyma artist sy’n teimlo’n gwbl gyflawn o’r nodyn cynta’ un – llais sy’n rhydd, yn ddiffuant a’n gyffrous.”
-Georgia Ruth
Rhestr Traciau Y Drefn
- Y Reddf
- Gwydr Glas
- Over Again
- Y Drefn
- Dos i Ffwrdd
- Pontydd
- Yno yn Barod
- If I’d Known
- Yr Awyr Adre
- Dal ar y Teimlad
Dolenni Gwefannau Cymdeithasol Mared
Spotify / YouTube / Facebook / Instagram / Gwefan